Canser y pancreas

Mae canser y pancreas yn datblygu pan fydd nifer y celloedd yn y pancreas, organ chwarennol y tu ôl i'r stumog, yn lluosi'n afreolaidd. Gall y celloedd canseraidd yma ymosod ar rannau eraill o'r corff.[1] Ymddangosa canser y pancreas mewn gwahanol ffyrdd. Adenocarsinoma pancreatig yw'r cyflwr mwyaf cyffredin (oddeutu 85% o achosion) ac fe ddefnyddir y term canser y pancreas weithiau i gyfeirio at y math hwn yn benodol. Y mae'r adenocarsinomata yn cychwyn o fewn gofod yn y pancreas sy'n creu ensymau traul. Gall y celloedd uchod arwain at fathau eraill o ganserau'r pancreas. Gelwir 1-2% o achosion yn diwmorau niwroendocrin ac y mae'r rhain yn deillio o'r celloedd sy'n cynhyrchu hormon y pancreas. Ar y cyfan, nid yw'r cyflwr hwn mor ymosodol â adenocarcinoma pancreatig.

Canser y pancreas
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y chwarren endocrin, clefyd y pancreas, neoplasm y pancreas, canser y system gastroberfeddol, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall y ffurf fwyaf cyffredin arwain at symptomau'n cynnwys croen melyn, poenau ynghylch yr abdomen neu gefn, colli pwysau yn annisgwyl, goleuo yn y carthion, tywyllu yn lliw wrin a cholli awydd bwyd. Fel rheol, ni ymddangosir symptomau ym mhenodau cynnar yr afiechyd, ac fel rheol, ymddangosir y symptomau penodol uchod wedi i'r canser datblygu'n sylweddol, ac o bosib y tu hwnt i'r pancreas.[2] Felly'n aml iawn, erbyn y cyfnod diagnosis, y mae canser y pancreas wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff.[3]

Nid yw canser y pancreas yn effeithio ar lawer sydd o dan 40 mlwydd oed, a cheir mwy na hanner o achosion adenocarsinoma pancreatig yn taro unigolion dros 70. Ymhlith y ffactorau risg y mae arfer ysmygu tybaco, gordewdra, clefyd y siwgr, a rhai cyflyrau genetig prin. Achosir oddeutu 25% o achosion gan ysmygu a 5-10% gan enynnau etifeddol. Fel rheol, gwneir diagnosis drwy gyfuniad o dechnegau, gan gynnwys delweddu meddygol megis uwchsain neu tomograffeg cyfrifiadurol, profion gwaed, ac archwilio samplau meinwe (biopsi). Gellir rhannu'r clefyd yn benodau, o'r cychwyn (pennod I) i'r ffurf ddatblygedig (cyfnod IV). Nid yw sgrinio'r boblogaeth yn gyffredinol wedi arwain at ganlyniadau effeithiol. [4]

Gellir trin canser y pancreas drwy lawdriniaeth, radiotherapi, cemotherapi, gofal lliniarol, neu gyfuniad o'r uchod. Mae'r driniaeth a gynigir yn rhannol ddibynnol ar bennod a lledaeniad y canser. Llawfeddygaeth yw'r unig driniaeth a all wella adenocarsinoma pancreatig, a gellir defnyddio'r dull hwnnw hefyd i wella ansawdd bywyd dioddefwyr nad sy'n debygol o wella'n gyfan gwbl.[5] Weithiau y mae gofyn defnyddio meddyginiaethau rheoli poen er mwyn gwella treuliad. Argymhellir triniaethau gofal lliniarol, a hynny mor fuan â phosib ym mhenodau’r cyflwr, hyd yn oed mewn achosion sy'n anelu at wellhad llawn.[6][7]

Yn 2015, arweiniodd yr amrywiol canserau uchod at 411,600 o farwolaethau'n fyd-eang. Canser y pancreas yw'r pumed canser mwyaf cyffredin i achosi marwolaethau yn y Deyrnas Unedig,[8] a'r pedwerydd mwyaf cyffredin yn yr Unol Daleithiau.[9] Effeithia'r byd datblygedig ar raddfa helaethach na'r byd datblygol (70% o achosion yn 2012). Y mae'r broses prognosis ynghylch adenocarsinoma pancreatig yn bur anfoddhaol, ar ôl derbyn diagnosis, y mae oddeutu 25% o bobl yn byw dros gyfnod o flwyddyn a dim ond 5% sy'n goroesi dros bum mlynedd. Ar gyfer yr achosion penodau cynnar codir y gyfradd goroesi dros bum mlynedd i oddeutu 20%. Ceir canlyniadau gwell mewn achosion o ganser niwroendocrin, gyda 65% o ddioddefwyr yn byw o leiaf pum mlynedd wedi'r diagnosis, er y mae'r ffigwr hwnnw'n amrywio'n sylweddol ym mhob tiwmor.

Cyfeiriadau golygu

  1. "What is Cancer? Defining Cancer". National Cancer Institute, National Institutes of Health. 7 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2014. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Pancreatic adenocarcinoma". N. Engl. J. Med. 371 (11): 1039–49. Medi 2014. doi:10.1056/NEJMra1404198. PMID 25207767. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2014. http://www.enotes.us/Pancreatic_Ca2014.pdf.
  3. "Pancreatic adenocarcinoma". BMJ (Clinical research ed.) 344: e2476. 2012. doi:10.1136/bmj.e2476. PMID 22592847. Archifwyd o y gwreiddiol ar 9 Ionawr 2015. https://web.archive.org/web/20150109071550/http://www.wessexcolorectalclinic.com/app/download/5789745892/2012_PancreaticAdenocarcinoma_BMJ.pdf.
  4. "Methods and rationale for the early detection of pancreatic cancer. Highlights from the "2010 ASCO Gastrointestinal Cancers Symposium". Orlando, FL, USA. 22–24 Ionawr 2010". JOP : Journal of the pancreas 11 (2): 128–30. 5 Mawrth 2010. PMID 20208319. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2014. http://www.joplink.net/prev/201003/19.html.
  5. "Pancreatic Cancer Treatment (PDQ®) Patient Version". National Cancer Institute. National Institutes of Health. 17 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Metastatic pancreatic cancer: the dilemma of quality vs. quantity of life". JOP : Journal of the pancreas 14 (4): 391–4. 10 Gorffennaf 2013. doi:10.6092/1590-8577/1663. PMID 23846935.
  7. "Treatment of pancreatic cancer: A narrative review of cost-effectiveness studies". Best practice & research. Clinical gastroenterology 27 (6): 881–92. Rhagfyr 2013. doi:10.1016/j.bpg.2013.09.006. PMID 24182608.
  8. Pancreatic Cancer Research Fund, 2015 Archifwyd 27 November 2015[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  9. "Analysis of mortality rates for pancreatic cancer across the world". HPB 10 (1): 58–62. 2008. doi:10.1080/13651820701883148. PMC 2504856. PMID 18695761. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2504856.