Rhaglen radio gomedi ddychanol ydy The Now Show, sy'n cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4. Mae'r rhaglen yn dychanu newyddion yr wythnos drwy gymysgedd o stand-up, sgetsys a chaneuon wedi eu cyflwyno gan Steve Punt a Hugh Dennis. Mae sgitiau gan Jon Holmes (gyda jociau ynglŷn â'i daldra), Laura Shavin (Emma Kennedy oedd yn gwneud y lleisiau yn y cyfresi cynnar), a monolog (fel arfer yn debycach i refru) gan Marcus Brigstocke, a cherddoriaeth gan Mitch Benn. Mae cyfresi yn y gorffennol hefyd wedi cynnwys Robin Ince, Dave Gorman, Simon Munnery, Al Murray, Andy Zaltzman a Dr Phil Hammond. Mae Jon Culshaw wedi ymddangos ym mhenodau'r Nadolig yn 2004 a 2005. Mae Rory Bremner hefyd yn westai ar y rhaglen weithiau. Mae gwestai hefyd yn cymryd lle aelodau cast o bryd i'w gilydd.

The Now Show
Math o gyfrwngrhaglen radio Edit this on Wikidata
Dechreuwyd26 Medi 1998 Edit this on Wikidata
Genrecomedy podcast, interview podcast Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bbc.co.uk/programmes/b006qgt7 Edit this on Wikidata
Hugh Dennis a Steve Punt yn y 2005 Radio Festival, Caeredin.

The Now Show Wikipedia Excerpt Media:TheNowShow 20060804 Wikipedia.ogg Darn o fersiwn podcast y rhaglen sy'n dychanu Wicipedia fel offer twyllo ar gyfer myfyrwyr TGAU - 565KB

Dolenni allanol

golygu