The Office (cyfres teledu UDA)

Mae The Office yn gyfres deledu gomedi Americanaidd a ddarlledwyd ar NBC o 24 Mawrth 2005 hyd 16 Mai 2013.

The Office
Genre
Seiliwyd arThe Office gan
Ricky Gervais
Stephen Merchant
Datblygwyd ganGreg Daniels
Yn serennu
Cyfansoddwr themaJay Ferguson
GwladUnited States
Iaith wreiddiolEnglish
Nifer o dymhorau9
Nifer o benodau201 (rhestr penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredol
Sinematograffi
Gosodiad cameraSingle-camera
Hyd y rhaglen22–42 minutes
Cwmni cynhyrchu
DosbarthwrNBCUniversal Television Distribution
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolNBC
Fformat y llun1080i (16:9 HDTV)
Fformat y sainDolby Digital
Darlledwyd yn wreiddiolMawrth 24, 2005 (2005-03-24) – Mai 16, 2013 (2013-05-16)
Cronoleg
Sioeau cysylltiolThe Office (UK)
Dolennau allanol
Gwefan

Mae'n addasiad o'r rhagln BBC wreiddiol o'r un enw. Cafodd The Office ei addasu ar gyfer cynulleidfa Americanaidd gan Greg Daniels, ysgrifennydd sgript Saturday Night Live, King of the Hill, a The Simpsons. Cafodd ei gyd-gynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Daniels Deedle-Dee Productions, a Reveille Productions (Shine America), mewn cyd-weithrediad gydag Universal Television. Yr uwch gynhyrchydd gwreiddiol oedd Greg Daniels, Howard Klein, Ben Silverman, Ricky Gervais, a Stephen Merchant, gyda mwy yn cael dyrchafiad mewn cyfresi eraill.

Mae'r gyfres yn portreadu bywyd bob dydd gweithwyr mewn swyddfa yn Scranton, Pennsylvania, cangen o'r cwmni papur ffuglenol Dunder Mifflin. I greu teimlad o raglen ddogfen go iawn, un camera sy'n cael ei ddefnyddio, heb gynulleidfa stiwdio na chwerthin ffug. Cafodd y sioe ei ddarlledu am y tro cyntaf ar NBC a redodd am naw cyfres a 201 pennod. Steve Carell, Rainn Wilson, John Krasinski, Jenna Fischer, a B. J. Novak oedd prif gast y rhaglen ar y dechrau, gyda llawer o newidiadau i'r cast yn ystod y 9 cyfres. 

Cafodd cyfres cyntaf The Office adolygiadau amrywiol, ond cafodd y pedwar cyfres oedd i ddilyn ganmoliaeth ysgubol gan adolygwyr teledu. Cafodd y cyfresi yma eu cynnwys mewn llawer o restrau arbennig gan adolygwyr, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys pedwar Primetime Emmy Awards, sy'n cynnwys Outstanding Comedy Series yn 2006. Tra bod cyfresi hwyrach eu barnu bod y safon wedi gostwng, cafodd y gyfres olaf ei ysgrifennu gan ysgrifenwyr cynnar y rhaglen ac fe dderbyniodd y rhaglen adolygiadau positif. 

Yn Rhagfyr 2017 roedd adroddiadau yn honni bod NBC yn ystyried adfywio'r gyfres. Roedd am redeg yn 2018-19 ac am ddangos cymysgfa o gast gwreiddiol (heb Steve Carell) a chast newydd.[1]


Cyfeiriadau golygu

  1. Petski, Denise (December 18, 2017). "'The Office' Revival Eyed At NBC". Deadline. Cyrchwyd December 19, 2017.