The People of the State of New York v. Donald Trump
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Achos troseddol yn erbyn Donald Trump, 45fed Arlywydd Unol Daleithiau America, oedd The People of the State of New York v. Donald Trump a gychwynnodd yng Ngoruchaf Lys Efrog Newydd yn Ebrill 2024. Cyhuddir Trump o 34 achos o ffugio cofnodion busnes gyda'r bwriad i gyflawni neu guddio troseddau eraill, yn ymwneud â thaliadau i Stormy Daniels, actores ffilmiau pornograffig, i geisio sicrhau ei thawelwch hi ynglŷn â pherthynas rywiol rhyngddynt. Yn ôl cyfraith daleithiol Efrog Newydd, camymddygiad yw ffugio cofnodion busnes, ond gallai gael ei ystyried yn drosedd difrifol os gwneid er hyrwyddo trosedd arall.[1] Cyhuddir Trump gan Erlynydd Ardal Manhattan o ffugio'i gofnodion busnes gyda'r nod o dorri cyfyngiadau ffederal ar ariannu ymgyrchoedd etholiadol, i ddylanwadu'n anghyfreithlon ar yr etholiad arlywyddol yn 2016, ac i gyflawni twyll treth;[2] mae pob un o'r 34 cyhuddiad yn erbyn Trump felly yn ffelwniaeth, ac mae'n wynebu dedfryd o garchar am 20 mlynedd os caiff ei euogfarnu ar o leiaf pum cyhuddiad.
Enghraifft o'r canlynol | indictment, achos troseddol |
---|---|
Label brodorol | People v. Trump |
Rhan o | March 2023 Donald Trump arrest rumors, indictments against Donald Trump |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Ebrill 2023 |
Prif bwnc | Stormy Daniels–Donald Trump scandal, Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016 |
Enw brodorol | People v. Trump |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 30 Mai 2024, cafwyd Trump yn euog o bob un o'r 34 cyhuddiad yn ei erbyn.[3] Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf 2024, ac mae Trump a'i gyfreithwyr yn bwriadu apelio yn erbyn yr euogfarn.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Libby Cathey, "Why Trump indictment might hinge on a 'novel legal theory'", ABC News (31 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) "Donald Trump Is Indicted in New York", The New York Times (5 Ebrill 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Awst 2023.
- ↑ (Saesneg) "Donald Trump found guilty in historic criminal trial", BBC (30 Mai 2024).
- ↑ (Saesneg) Kara Scannell, Lauren Del Valle a Jeremy Herb, "Donald Trump found guilty of all 34 charges in hush money trial", CNN (31 Mai 2024). Adalwyd ar 7 Mehefin 2024.