Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016
Cynhaliwyd 58fed etholiad arlywyddol Unol Daleithiau America neu Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, ar yr 8fed o Dachwedd 2016, etholiad pedeirblynyddol. Ystyrir yr etholaid hon yn un o'r rhai mwyaf negyddol erioed; canlyniad yr etholiad oedd i Donald Trump (y Blaid Weriniaethol) gael ei ethol yn Arlywydd a Mike Pence yn Ddirprwy Arlywydd. Trump fydd y 45ed Arlywydd UDA.
| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod o'r Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 54,7%[1] 0.7% | ||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
Map o ganlyniadau'r etholiad. Coch: Trump a Pence. Glas: Clinton a Kaine. Nifer canlyniadau'r cynrychiolwyr yw'r rhifau; po fwyaf y boblogaeth, mwyaf yw'r nifer o gynrychiolwyr sydd gan y Dalaith. | |||||||||||||||||||||||||||||
|
Pleidleisiodd y cynrychiolwyr (neu 'etholwyr' / electors) ar ran yr etholaethau Arlywydd a Dirprwy-Arlywydd drwy'r Coleg Etholiadol. Cytunwyd ar y cyfnod o bedair blynedd yn yr 22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau a gwaharddwyd yr Arlywydd cyfredol, Barack Obama o'r Blaid Ddemocrataidd rhag cael ei ethol am y trydydd tymor. Dyma felly etholiad y 45ed Arlywydd a'r 48fed Dirprwy Arlywydd o'r wlad.
Trechodd y dyn busnes Donald Trump y Seneddwr Ted Cruz o Texas, John Kasich o Ohio a Marco Rubio o Florida ar 19 Gorffennaf 2016 gan ddod yn gynrychiolydd y Blaid Weriniaethol.[6] Pe bai'n cael ei ethol, Trump fyddai Arlywydd hynaf yr UD erioed.[7] Daeth y cyn-Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton i gynrychioli'r Blaid Ddemocrataidd ar 26 Gorffennaf 2016, wedi iddi drechu'r Seneddwr Bernie Sanders o Vermont. Pe bai'n cael ei hethol, hi fyddai'r ferch gyntaf i ddod yn Arlywydd yr UD.[8]
Ymgeiswyr
golyguPlaid Weriniaethol
golygu Tocyn Plaid Weriniaethol 2016 | |
---|---|
Donald Trump | Mike Pence |
dros Arlywydd | dros Is-Arlywydd |
Cadeirydd Sefydliad Trump (1971–2017) |
50ain Llywodraethwr o Indiana (2013–2017) |
Plaid Ddemocrataidd
golygu Tocyn Plaid Ddemocrataidd 2016 | |
---|---|
Hillary Clinton | Tim Kaine |
dros Arlywydd | dros Is-Arlywydd |
67ain Ysgrifennydd Gwladol yr UD (2009–2013) |
Seneddwr yr Unol Daleithiau dros Virginia (2013–presennol) |
Yn gryno
golygu- Yn 70 oed, Trump yw'r ymgeisydd hynaf i gael ei ethol i dymor cyntaf fel arlywydd; 69 oed oedd Ronald Reagan pan wnaed ef yn arlywydd yn 1980.
- Trump yw'r 5ed arlywydd o Efrog Newydd, gan ddilyn Martin Van Buren, Millard Fillmore, Theodore Roosevelt, a Franklin D. Roosevelt. Ef yw'r ail i'w eni yn Efrog Newydd; Theodore Roosevelt oedd y cyntaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "2016 November General Election Turnout Rates". United States Election Project. Cyrchwyd 10 Tachwedd, 2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ 2.0 2.1 "Presidential Results". NBC. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
- ↑ 3.0 3.1 "Election results 2016". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-31. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
- ↑ 4.0 4.1 "Live Presidential Forecast". The New York Times. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ 5.0 5.1 "Presidential Election Results: Donald J. Trump Wins". New York Times. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016. (11/10/2016 1:24 am ET)
- ↑ Collinson, Stephen; Kopan, Tal (July 19, 2016). "It's official: Trump is Republican nominee". CNN. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2016.
- ↑ Kurtzleben, Danielle (14 Mehefin 2016). "It's Trump's Birthday. If He Wins, He'd Be The Oldest President Ever To Take Office". NPR. Cyrchwyd 23 Medi 2016.
- ↑ Dann, Carrie (27 Gorffennaf 2016). "Hillary Clinton Becomes First Female Nominee of Major U.S. Political Party". NBC News. Cyrchwyd 25 Medi 2016.