The Windmills of Your Mind

Cân Saesneg o 1968 a gyfansoddwyd gan y Ffrancwr Michel Legrand gyda geiriau gan yr Americanwyr Alan a Marilyn Bergman yw "The Windmills of Your Mind". Canwyd yn gyntaf gan Noel Harrison ar gyfer trac sain y ffilm The Thomas Crown Affair, ac enillodd wobr y Gân Wreiddiol Orau yn 41ain seremoni Gwobrau'r Academi. Cyrhaeddodd y gân safle Rhif 8 yn siartiau'r Deyrnas Unedig ym 1969. Ymhlith y cantorion eraill sydd wedi recordio'r gân mae Dusty Springfield ar ei halbwm Dusty in Memphis a Sting ar gyfer trac sain yr ailwneuthuriad o The Thomas Crown Affair (1999).

Eginyn erthygl sydd uchod am gân. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.