Dusty Springfield
Roedd Mary Isabel Catherine Bernadette O'Brien OBE (16 Ebrill 1939 – 2 Mawrth 1999), a oedd yn cael ei hadnabod yn broffesiynol fel Dusty Springfield yn gantores bop o Loegr. O'r holl gantorion benywaidd a lwyddodd yn siartiau'r Unol Daleithiau, Springfield gafodd y dylanwad fwyaf ar y farchnad Americanaidd. Rhwng 1963 a 1970, llwyddodd 18 o'i senglau i gyrraedd y Billboard Hot 100. Cafodd ei phleidleisio'n Artist Benywaidd Prydeinig Gorau gan ddarllenwyr NME ym 1964, 1965 a 1968. Hefyd cafodd ei henwi ymysg y 25 perfformwraig roc benywaidd gorau erioed gan ddarllenwyr cylchgrawn Mojo, golygyddion cylchgrawn Q (2002) a chan banel o artistiaid ar y sianel deledu VH1 (2007).
Dusty Springfield | |
---|---|
![]() | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Enw genedigol | Mary Isabel Catherine Bernadette O'Brien |
Ganwyd | 16 Ebrill 1939 |
Man geni | ![]() |
Marw | 2 Chwefror 1999 (59 oed) |
Cerddoriaeth | pop |
Galwedigaeth(au) | Cantores |
Offeryn(au) cerdd | Llais, gitar |
Blynyddoedd | 1958 - 1995 |
Label(i) recordio | Philips Records, Atlantic Records |
Cysylltiedig | Lana Sisters, Springfields, Sweet Inspirations |
Fel ffan o gerddoriaeth soul Americanaidd, crëodd Dusty Springfield sain soul unigryw. Disgrifiwyd ei llais unigryw gan Burt Bacharach fel: "...three notes and you knew it was Dusty." Atgyfnerthwyd ei delwedd gan ei gwallt peroxide ar siap y 'beehive', ei cholur llygaid trwchus a'i ffrogiau min nos. Arweiniodd y ffaith nad oedd Springfield erioed mewn perthynas yn gyhoeddus at bobl yn cwestiynu ei rhywioldeb trwy gydol ei bywyd.