Theatr ranbarthol yw Theatr Felinfach, a leolir ger pentref Ystrad Aeron yn Nyffryn Aeron, tua 7 milltir o dref Llanbedr Pont Steffan yn sir Ceredigion, Cymru. Nod y theatr yw "darparu cyfleoedd addysgol eang i boblogaeth Ceredigion a gorllewin Cymru trwy gyfrwng y celfyddydau yn gyffredinol, a drama, theatr, dawns a’r cyfryngau yn arbennig."[1]

Theatr Felinfach
Maththeatr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYstradaeron Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1912°N 4.1647°W Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Theatr Felinfach trwy addasu hen weithdy cywiro peiriannau amaethyddol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ar safle yn Felinfach yn 1972 gan Adran Addysg yr hen Sir Aberteifi a chafodd ei agor yn swyddogol ym mis Mai y flwyddyn honno.[1] Fe'i noddir gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Cyngor Sir Ceredigion.

Mae'n un o brif ganolfannau diwylliannol y Gymraeg yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ac yn un o'r ychydig theatrau sy'n canolbwyntio ar gynhyrchiadau Cymraeg yn bennaf, er ei bod yn llwyfanu perfformiadau drama a cherddoriaeth yn Saesneg o Gymru a gweddill gwledydd Prydain hefyd.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu