Thelonious Monk

cyfansoddwr a aned yn 1917

Pianydd a chyfansoddwr jazz Americanaidd oedd Thelonious Sphere Monk (10 Hydref 191717 Chwefror 1982).

Thelonious Monk
GanwydThelious Monk Jr. Edit this on Wikidata
10 Hydref 1917 Edit this on Wikidata
Rocky Mount Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 1982 Edit this on Wikidata
Weehawken Edit this on Wikidata
Man preswylRocky Mount, New Jersey Edit this on Wikidata
Label recordioBlue Note, Prestige, Columbia Records, Riverside, Charly Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Stuyvesant High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpianydd, cyfansoddwr, cerddor jazz, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddulljazz, bebop, hard bop, stride piano, cool jazz Edit this on Wikidata
PriodNellie Monk Edit this on Wikidata
PlantT. S. Monk Edit this on Wikidata
PerthnasauAngelika Beener Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Pulitzer Prize Special Citations and Awards, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.monkzone.com/ Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Rocky Mount, Gogledd Carolina, a symudodd i Manhattan, Dinas Efrog Newydd, yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn Minton's Playhouse yn Harlem, ac yno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull bebop.[1]

Ym 1951 treuliodd 60 niwrnod mewn carchar am feddu ar gyffuriau, er y mae'n debyg yr oedd yn ddieuog. O ganlyniad collodd ei Gerdyn Cabaret a chafodd effaith drom ar ei yrfa. Ym 1957, gyda chymorth Pannonica de Koenigswarter, ad-enillodd ei gerdyn gan ei alluogi i berfformio yng nghlwb y Five Spot. Yn y 1960au perfformiodd mewn pedwarawd gyda Charlie Rouse mewn clybiau, cyngherddau a gwyliau cerddorol ar draws y byd. Perfformiodd yn llai aml yn y 1970au oherwydd salwch. Bu farw yn 64 oed ar ôl cael strôc.[1]

Cafodd Monk ddylanwad sylweddol ar jazz modern, yn enwedig ar waith George Russell, Randy Weston, a Cecil Taylor. Ym 1997 canfuwyd 4000 o oriau o recordiadau gan Monk a cherddorion jazz eraill megis Charles Mingus a Sonny Rollins.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Wilson, John S. (18 Chwefror 1982). Thelonious Monk, Created Wry Jazz Melodies and New Harmonies. The New York Times. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  2. (Saesneg) Thelonious Monk. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: