There'll Always Be an England
Cân wladgarol Seisnig yw "There'll Always Be an England" a ysgrifennwyd yn haf 1939 a daeth yn boblogaidd ar ddechrau yr Ail Ryfel Byd. Cyfansoddwyd ac ysgrifennwyd gan Ross Parker (ganwyd Albert Rostron Parker, 16 Awst 1914 ym Manceinion) a Hugh Charles (ganwyd Charles Hugh Owen Ferry, 24 Gorffennaf 1907 yn Reddish, Stockport). Canodd Vera Lynn y gân yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Canodd Tiny Tim fersiwn o'r gân yng Ngŵyl Ynys Wyth ym 1970. Defnyddiwyd teitl y gân gan y Sex Pistols am DVD.