Sex Pistols
Roedd y Sex Pistols yn fand pync-roc o Llundain yn Lloegr. Cafodd y band ei ffurfio yn 1975, a daeth gyrfa'r band i ben yn 1980. Johnny Rotten (hynny yw, John Lydon, llais), Steve Jones (gitâr), Glen Matlock (bâs) a Paul Cook (drymiau) oedd yr aelodau gwreiddiol, ond gadawodd Matlock y band yn 1977, a wnaeth Sid Vicious gymryd ei le.
Enghraifft o'r canlynol | band roc |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | EMI Records, A&M Records, Virgin Records, Warner Bros. Records, Universal Music Group, EMI |
Dod i'r brig | 1975 |
Dechrau/Sefydlu | 1975 |
Genre | pync-roc |
Yn cynnwys | John Lydon, Glen Matlock, Steve Jones, Paul Cook, Sid Vicious, Frank Carter |
Gwefan | https://www.sexpistolsofficial.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er y ffaith nad oeddent yn fand gweithredol am fwy na dwy flynedd, ystyrir y Sex Pistols i fod yn un o'r bandiau mwyaf dylanwadol y mudiad pync. Wnaeth eu hymddangosiad ar y sioe deledu Today yn 1976 - pan wnaeth dau aelod regi yn ystod eu cyfweliad gyda'r cyflwynydd teledu Bill Grundy - helpu i ddod â nhw i sylw y wasg Brydeinig, yn ogystal â phwysleisio eu hagwedd anarchaidd tuag at y diwydiant cerddoriaeth. Ail-ffurfiwyd y band, gyda Matlock ar fâs, yn 1996, ac ar nifer o achlysuron ers hynny.[1]
Gweithiau
golygu- Never Mind The Bollocks, Here's The Sex Pistols (Virgin, 1978)
- The Great Rock 'n' Roll Swindle (albwm dwbl; Virgin, 1979)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Robb (gol.), Punk Rock: An Oral History (Ebury, 2005).