Thomas Levi

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd

Gweinidog, awdur a golygydd o Gymru oedd Thomas Levi (12 Hydref 182516 Mehefin 1916).

Thomas Levi
Ganwyd12 Hydref 1825 Edit this on Wikidata
Ystradgynlais Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mehefin 1916 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, golygydd Edit this on Wikidata
Astudiaeth gryno o fywyd a gwaith Thomas Levi wedi'i olygu gan Dafydd Arthur Jones; 1996

Ganed ef ym Mhenrhos, gerllaw Ystradgynlais, a bu'n gweithio yng ngwaith haearn Ynyscedwyn. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ystradgynlais tua 1855-60. Bu'n weinidog yn Nhreforus o 1860 hyd 1876, yna yn Aberystwyth hyd 1901.

Sefydlodd Trysorfa y Plant yn 1862, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn hyd 1911; yn y cyfnod yma, cyrhaeddodd y cylchrediad 44,000 y mis. Ysgrifennodd 30 o lyfrau gwreiddiol.

Gweithiau

golygu
  • Hanes Prydain Fawr 1862
  • Bywyd a Theithiau Livingstone 1857
  • Gweddiau Teuluaidd 1863
  • Hanesion y Beibl 1870
  • (golygydd) Casgliad o Hen Farwnadau 1872
  • Hanes y Beibl Cymraeg 1876
  • Traethodau Bywgraffyddol 1882
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.