Treforys

cymuned yn Ninas Abertawe
(Ailgyfeiriad oddi wrth Treforus)

Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Treforys[1][2] (Saesneg: Morriston), sy'n gartref i ganolfan y DVLA ac un o ysbytai mwyaf Cymru.

Treforus
Former canal bridge over Morriston footpath - geograph.org.uk - 1330333.jpg
Pont yr hen gamlas
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.67°N 3.93°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000971 Edit this on Wikidata
Cod OSSS6698 Edit this on Wikidata
Cod postSA6 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Sefydlwyd Treforys tua 1720 pan agorwyd gwaith copr gan Syr John Morris (1745-1819). Roedd y dref yn ganolfan i'r diwydiannau metel tan 1980 pan gaeodd Gwaith Dyffryn, gwaith olaf Treforys.

Mae Clwb Rygbi Treforys yn chwarae yn Adran 4 o Gynghrair Cymru.

Treforys yw cartref Côr Orpheus Treforus, un o gorau meibion enwocaf y byd. Mae'r côr yn teithio'r byd i gyd. Capel Tabernacl yng nghanol y dref yw capel mwyaf Cymru. Mae rhai'n ei alw'n Eglwys Gadeiriol yr Annibynnwyr. Agorwyd y Tabernacl yn 1872.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[3][4]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Treforys (pob oed) (16,928)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treforys) (1,931)
  
11.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treforys) (14150)
  
83.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Treforys) (2,709)
  
37.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

EnwogionGolygu

  • Sid Bevan (1877 - 1933) Chwaraewr rygbi rhyngwladol

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Gwefan Enwau Cymru (Canolfan Bedwyr); adalwyd 1 Mehefin 2013". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2013-06-01.
  2. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 17
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]