Thomas Rees (Twm Carnabwth)

paffiwr

Paffiwr a oedd yn un o Ferched Beca oedd Thomas Rees, mwy adnabyddus fel Twm Carnabwth (1806? - 17 Tachwedd 1876).

Thomas Rees
Ganwyd1806 Edit this on Wikidata
Mynachlog-ddu Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 1876 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHelyntion Beca Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ganed ef ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro. Dywed R. T. Jenkins nad oedd ganddo ran mor amlwg ag y tybir yn Helyntion Beca, ond daeth yn amlwg iawn fel paffiwr. Yn 1847, ymladdodd a gŵr o'r enw Gabriel Davies pan oedd yn feddw, a chollodd un o'i lygaid. Yn dilyn hyn, cafodd droedigaeth grefyddol ac ymaelododd a'r Bedyddwyr.

Llenyddiaeth golygu

  • Hefin Wyn, Ar Drywydd Twm Carnabwth: Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca (Y Lolfa, 2022)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.