Robert Thomas Jenkins
Hanesydd ac awdur o Gymru oedd Robert Thomas Jenkins, yn ysgrifennu fel R. T. Jenkins (31 Awst 1881 - 11 Tachwedd 1969).[1]
Robert Thomas Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 31 Awst 1881 Lerpwl |
Bu farw | 11 Tachwedd 1969 Bangor |
Man preswyl | Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE |
Bywgraffiad
golyguGaned ef i deulu Cymreig yn Lerpwl, ond symudodd y teulu i ddinas Bangor pan oedd yn ieuanc. Collodd ei fam a'i dad cyn bod yn naw oed, a magwyd ef gan deulu ei fam yn y Bala. Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Saesneg ac yna i Goleg y Drindod, Caergrawnt.[1]
Bu'n athro ysgol yn Llandysul, Aberhonddu a Chaerdydd. Yn 1930 penodwyd ef yn ddarlithydd annibynnol yn adran Hanes Cymru ym Mangor. Yn 1938 daeth yn olygydd cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig, a phan fu farw Syr John Edward Lloyd yn 1947 daeth yn gyd-olygydd â Syr William Llewelyn Davies. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg o'r Bywgraffiadur yn 1953 a'r fersiwn Saesneg yn 1959. Dyfarnwyd gradd D.Litt. Prifysgol Cymru iddo yn 1939 a LL.D. honoris causa (Cymru) yn 1956. Daeth yn Athro yn yr Adran Hanes yn 1945.[1]
Ysgrifennodd rai storïau byrion a Ffynhonnau Elim dan yr enw Idris Thomas.[1]
Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas o academwyr a llenorion a ymdrechai dros godi statws a defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg, bywyd cyhoeddus a'r radio.
Cyhoeddiadau
golygu- Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
- Yr Apêl at Hanes (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1930)
- Ffrainc a'i Phobl (Hughes a'i Fab, 1930)
- Gruffydd Jones, Llanddowror (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
- (gyda William Rees) The Bibliography of the History of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
- Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1933)
- Y Ffordd yng Nghymru (Hughes a'i Fab, 1933)
- Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn (Y Bala: Robert Evans a'i Fab, 1937)
- The Moravian Brethren in North Wales (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1938)
- (gol.) Storïau Gwallter Map (Llyfrau'r Dryw, 1942)
- Orinda (Caerdydd: Hughes a'i Fab, 1943)
- Ffynhonnau Elim (Llyfrau'r Dryw, 1945)
- (gol.) Jeremy Owen, Golwg ar y Beiau (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)
- (gyda Helen Ramage) A History of the Honourable Society of Cymmrodorion (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1951)
- Casglu Ffyrdd (Hughes a'i Fab, 1956)
- Ymyl y Ddalen (Hughes a'i Fab, 1957)
- Yng Nghysgod Trefeca (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1968)
- Edrych yn ôl (Llundain: Club Llyfrau Cymraeg, 1968)
- Cyfoedion (Aberystwyth: Club Llyfrau Cymraeg, 1974)
- Cwpanaid o De a Diferion Eraill, casgliad o'i ysgrifau wedi'i olygu gan Emlyn Evans (Dinbych: Gwasg Gee, 1997)