Thomas Rees (diwinydd)
Golygydd a diwinydd o Gymru oedd Thomas Rees (30 Mai 1869 – 20 Mai 1926), a Prifathro Coleg Bala-Bangor (coleg yr Annibynwyr Cymraeg) o 1909 hyd 1926.
Thomas Rees | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 1869 Llanfyrnach |
Bu farw | 20 Mai 1926 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | prifathro coleg |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed yn Nolaeron, Llanfyrnach, Sir Benfro. Bu'n gweithio ar ffermydd yn ardal Crymych ac mewn gwaith glo yn Aberdâr cyn dechrau pregethu yn 1890.
Cafodd yrfa academaidd disglair: derbyniwyd ef ar ben y rhestr i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1891; graddiodd mewn athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd (gan ennill gradd M.A. o Brifysgol Llundain a cipio ysgoloriaeth mewn Cymraeg), ac yna aeth ymlaen i Goleg Mansfield, Rhydychen lle graddiodd yn 1899 gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth.
Penodwyd yn athro diwynyddiaeth yng Ngholeg Coffa Aberhonddu yn 1899; ac wedyn yn brifathro Coleg Bala-Bangor yn 1909 : yno y bu am weddill ei oes.
Ym Mangor, bu'n ymladd yn wydn dros gysylltu cyrsiau diwinyddol â gradd prifysgol. Gweithiodd gyda Syr Harry Reichel, prifathro Coleg Prifysgol y Gogledd, Bangor, i agor adran diwynyddiaeth yng Ngholeg y Gogledd, yn 1922, ac i sefydlu traddodiad o gydweithio â cholegau'r enwadau.
Fel olygydd diwynyddol, ei gampwaith oedd Y Geiriadur Beiblaidd, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol swmpus yn 1924 a 1926.
Cyhoeddod nifer o weithiau, gan gynnwys: Duw: Ei Fodolaeth a'i Natur (1910), Paham yr wyf yn Brotestant, Ymneilltuwr, ac Annibynnwr (1911); Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid (dwy gyfrol: 1912, 1913); The Holy Spirit in Thought and Experience (1915); Cenadwri'r Eglwys a Phroblemau'r Dydd (1923); a Gwleidyddiaeth yng Nghymru (1924).
Yn Aberhonddu yr oedd Thomas Rees yn Rhyddfrydwr selog : bu'n aelod - a wedyn yn gadeirydd - o'r Pwyllgor Addysg.
Fel heddychwr, safodd yn gadarn ac yn amlwg yn erbyn rhyfel 1914-8, ac am hynny cafodd deimlo grym erledigaeth. Ef oedd olygydd Y Deyrnas, y misolyn gwrth-ryfel a gyhoeddwyd o Hydref 1916 i Dachwedd 1919.
Cyfeiriadau
golyguOwen, R. G., (1953). REES, THOMAS (1869 - 1926), prifathro Coleg Bala-Bangor, Bangor. Y Bywgraffiadur Cymreig.