Tiberius Sempronius Gracchus

Gwleidydd Rhufeinig oedd Tiberius Sempronius Gracchus (163 CC-132 CC). Fel tribwn y bobl yn 133 CC. cyflwynodd fesurau radicalaidd i ail-ddosbarthu tir i dlodion Rhufain.

Tiberius Sempronius Gracchus
Ganwyd162 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw133 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Rhufeinig, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, quaestor, triumvir agris dandis assignandis, tribune of the plebs, legatus, Augur, legatus Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolpopulares Edit this on Wikidata
TadTiberius Gracchus yr hynaf Edit this on Wikidata
MamCornelia Africana Edit this on Wikidata
PriodClaudia Edit this on Wikidata
PlantSempronius Gracchus, Sempronius Gracchus, Tiberius Sempronius Gracchus Edit this on Wikidata
LlinachSempronii Gracchi Edit this on Wikidata
Tiberius Sempronius Gracchus

Ganed Tiberius yn 163 CC, yn fab i Tiberius Gracchus Major a Cornelia Africana. Roedd teulu'r Gracchi yn un cyfoethog a dylanwadol; ar ochr ei fam roedd yn ŵyr i Publius Cornelius Scipio Africanus, y cadfridog a orchfygodd Hannibal. Roedd ganddo frawd iau, Gaius Gracchus. Priododd Claudia Pulchra, ond ni fu iddynt blant.

Dechreuodd Tiberius ei yrfa filwrol yn y trydydd rhyfel yn erbyn Carthago, ar staff ei frawd-yng-nghyfraith Scipio Aemilianus. Yn 137 CC apwyntiwyd ef i swydd quaestor dan y conswl Gaius Hostilius Mancinus oedd yn ymgyrchu yn Sbaen. Gorchfygwyd byddin Mancinus, a bu raid i Tiberius wneud cytundeb heddwch a'r gelyn. Wedi iddo ddychwelyd i Rufain, perswadiodd Scipio Aemilianus y senedd i wrthod cadarnhau'r cytundeb. Dechreuodd hyn elyniaeth rhwng Tiberius a'r senedd.

Roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain yn y cyfnod yma. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu latifundia, ffernydd mawer a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.

Yn 133 CC etholwyd Tiberius yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw Lex Sempronia agraria. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr.

Golygai hyn y byddai llawer o bobl gyfoethocaf Rhufain yn colli tiroedd helaeth, a bu gwrthwynebiad ffyrnig ganddynt. Gan na chytunai'r senedd i'r mesur, aeth Tiberius at y bobl yn y Concilium Plebis, lle roedd cefnogaeth iddo. Perswadiodd y seneddwyr dribwn arall, Marcus Octavius, i geisio atal y mesur, ond taflodd Tiberius ef o'r cyfarfod, a bleidleisodd wedyn i'w ddiswyddo fel tribwn.

Pasiwyd y mesur, ond dim ond ychydig iawn o arian a roddodd y senedd i'w weithredu. Fodd bynnag, yn hwyr yn 133 CC bu farw Attalus III, brenin Pergamum, gan adael ei holl gyfoeth i Rufain. Defnyddiodd Tiberius ei swydd fel tribwn i glustnodi'r arian yma i roi ei fesur mewn gweithrediad. Cynyddodd gelyniaeth y senedd.

Yn 132 CC, cynigiodd Tiberius ei hun i'w ail-ethol fel tribwn. Ar ddiwrnod yr etholiad, ymosodwyd arno ef a'i ganlynwyr gan seneddwyr a'u cefnogwyr, a arweinid gan ei gefnder ei hun, Publius Cornelius Scipio Nasica. Lladdwyd Tiberius a rhai cannoedd o'i gefnogwyr yn yr ymladd.

Ceisiodd y senedd ymheddychu a'r bobl trwy gytuno i adael i fesurau Tiberius gael ei gweithredu. Ddeng mlynedd yn ddiweddarch, cynigiodd ei frawd, Gaius, fesurau mwy radicalaidd fyth.