Tilman Riemenschneider
Cerflunydd a cherfiwr coed o'r Almaen oedd Tilman Riemenschneider (tua 1460 – 7 Gorffennaf 1531) sydd yn nodedig am ei gerfluniau pisgwydd o olygfeydd Beiblaidd a bucheddau'r saint. Bu hefyd yn arfer ei grefft drwy gyfrwng marmor, calchfaen, ac alabastr.[1]
Tilman Riemenschneider | |
---|---|
Ganwyd | 1460 Heilbad Heiligenstadt |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1531, 7 Gorffennaf 1531 Würzburg |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | cerflunydd, cerfiwr |
Adnabyddus am | Zwölfbotenaltar |
Mudiad | y Dadeni Almaenig |
Plant | Bartlmä Dill Riemenschneider |
Ganed yn Heiligenstadt yn rhanbarth Thwringia, a oedd ar y pryd dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd ac yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Roedd ei dad yn feistr ar y bathdy yn Würzburg yn rhanbarth Ffranconia. Ymsefydlodd Tilman yn Würzburg erbyn 1479 ac yno sefydlodd gweithdy mawr ar gyfer cerfluniaeth garreg a phren ym 1483.
Bu'n weithgar ym mywyd dinesig Würzburg, a gwasanaethodd yn gynghorwr o 1504 i 1520 ac yn fwrgfeistr o 1520 i 1525. Rhodd ei gefnogaeth i'r chwyldroadwyr yn ystod Rhyfel y Gwerinwyr (1524–25) ac am y rheswm honno fe'i carcharwyd am dro, a chollodd ei ddyletswyddau gwleidyddol a'i nawddogaeth am gyfnod.
Ymhlith ei weithiau mae allor bren y Forwyn Fair (c. 1505–10) yn Eglwys Herrgotts, Creglingen; maen-ffurfiau Adda ac Efa yn y Marienkapelle, Würzburg; Allor y Gwaed Sanctaidd (1501–05) yn Eglwys St Jakob, Rothenburg; a Beddrod yr Ymerawdwr Harri II a'r Ymerodres Cunigunde (1499–1513) yn Eglwys Gadeiriol Bamberg.
Bu farw Tilman Riemenschneider yn Würzburg, tua 71 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Claudia Lichte; Mainfränkisches Museum Würzburg (1999). Mainfränkisches Museum Würzburg: Riemenschneider Collection (yn Saesneg). Prestel. t. 11. ISBN 978-3-7913-2211-7.
- ↑ (Saesneg) Tilman Riemenschneider. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2020.