Tir prid oedd categori o dir a ddelid yn y Canol Oesoedd yn unol â rheolau Cyfraith Hywel. Gwnaed math o gytundeb tenantiaeth neu forgais rhwng yr arglwydd a'r sawl oedd am amaethu, am swm o arian a rhoddwyd sicrwydd i'r tenant am nifer o flynyddoedd (pedair yn aml). Byddai hyn yn caniatâu i'r tenant deilo'r tir a'i amaethu nes bod y tail wedi gael ei gyfnod a'r tir yn barod am ail deilo. Sicrhaodd hyn fod y tir yn dal o fewn awdurdod yr arglwydd lleol ond hefyd bod gan y sawl a weithiai'r tir yr hyder i wneud hynny'n briodol.

Erbyn y 14g a'r 15g, fodd bynnag, daeth yn ffurf ar drosglwyddo tir o un deilydd i'r llall. Yn ôl y gyfraith, nid oedd modd gwerthu tir (gan fod y tir yn eiddo i'r prif arglwydd, tywysog neu frenin), ond caniateid gwerthu hawliau i dir. Arferid wedyn ofyn am swm mwy sylweddol, a fyddai'n cyfateb â gwerth llawn y tir, gyda'r disgwyliad na fyddai'r prynwr byth am roi'r tir yn ôl. Ar y llaw arall, yn ôl yr egwyddor, roedd gan y cyn-ddeilydd yr hawl, bob pedair blynedd (neu ar ôl rhyw gyfnod arall y penderfynwyd arno) i dalu'r arian yn ôl ac ailfeddiannu'r tir, hyd nes bod pedair cenhedlaeth wedi pasio). Wedi hynny, ni fyddai hawl adhawlio'r tir gan etifeddion y pridwr gwreiddiol. Roedd hyn yn debyg i'r hen ffurf ar forgais a welwyd dan gyfraith Lloegr, a weithredai'n fwy tebyg i system pawnbroker na gwerthwr tir! Roedd ffurfiau hŷn o ddal tir yn dibynnu ar dystiolaeth lafar yn y llysoedd, ond gofynnai trosglwyddiadau prid am dystiolaeth ysgrifenedig mewn gweithred neu siartr.[1]

Ceir dogfennau mewn rhai casgliadau (Casgliad Tan y Bwlch yn Archifdy Meirionnydd yn arbennig) sydd yn cofnodi'r trosglwyddiad o eiddo dan yr amodau hyn, hyd nes i'r Deddfau Uno ym 1536 a 1543 wahardd gweithredu yn ôl yr hen gyfraith Gymreig. Roedd ffurf sefydlog yn cael ei defnyddio gan gyfreithwyr a ysgrifennodd y dogfennau tir prid, ond roedd y ffurf a'r union amodau'n newid o ardal i ardal. Mae un neu ddau o ddogfennau tir prid yng nghasgliad teulu Newborough yn Archifdy Caernarfon sydd yn hanu o ardal Wrecsam ac sydd yn tystio i ffordd hollol wahanol o gyrraedd yr un nod. Mae'r dogfennau sydd wedi eu goroesi wedi eu hysgrifennu yn Lladin.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. T. Jones Pierce, Medieval Welsh Society. Selected Essays. (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1972), tt.378, 384-7.
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/1360/8