Ardal ar gyrion gogleddol dinas Abertawe, heb fod ymhell o Dreforys yw Tirdeunaw. Mae gan yr ardal gysylltiadau da gyda'r M4 i'r gogledd a Phenrhyn Gŵyr i'r gorllewin.

Bellach mae Tirdeunaw yn ymestyn o groes Capel Caersalem ar hyd Heol Llangyfelach hyd ben y bryn uwchben Llangyfelach. Arferai ymestyn i ben uchaf Treboeth ac roedd ganddo swyddfa bost ac ysgol gynradd.

Mae dros 400 o blant yn mynychu'r ysgol, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, y drws nesaf at Ysgol Gymunedol Daniel James. Ceir yno hefyd ganolfan hamdden, un siop trin gwallt a deintydd. Bellach, mae yna gae pêl-droed newydd o'r enw 'Play Football' hefyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato