Tiriodh

(Ailgyfeiriad o Tiree)

Ynys yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Tiriodh (Saesneg: Tiree). Saif yr ynys i'r de-orllewin o ynys Colla, ac mae'r boblogaeth tua 800.

Tiriodh
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth653 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd78.34 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.505585°N 6.878122°W Edit this on Wikidata
Cod postPA77 Edit this on Wikidata
Hyd19 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ma'r ynys yn dir isel ac yn ffrwythlon. Mae Tir Iodh yn golygu "Tir y gwenith". Y prif bentref yw Scarinish, a gysylltir gan fferi ag Arinagour at ynys Colla a Oban ar y tir mawr. Ceir maes awyr bychan yn Crossapol gerllaw. Ymhlith y pentrefi eraill mae Hynish a Sandaig. Ymysg hynafiaethau'r ynys mae broch Dùn Mòr o'r ganrif 1af CC. Yn 2001 roedd 48.6% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg, canran uchel i Ynysoedd Mewnol Heledd.

Bae Balephuil, gyda'r Machair yn y blaendir