To Kill a Mockingbird
Nofel gan Harper Lee a gyhoeddwyd yn 1960 ydy To Kill a Mockingbird. Bu'n nofel llwyddiannus o'r cychwyn cyntaf, gan ennill y Wobr Pulitzer, a bellach fe'i hystyrir yn glasur yn llenyddiaeth Americanaidd. Seiliwyd plot a chymeriadau'r nofel yn fras ar yr hyn welodd yr awdures ymhlith ei theulu a'i chymdogion, yn ogystal a rhywbeth a ddigwyddodd nepell o'i chartref yn 1936, pan oedd yn 10 mlwydd oed.
| |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
gwaith ysgrifenedig ![]() |
Awdur | Harper Lee |
Cyhoeddwr |
J. B. Lippincott & Co. ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi |
11 Gorffennaf 1960 ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 11 Mehefin 1960 |
Genre |
social novel, nofel ![]() |
Lleoliad cyhoeddi |
Unol Daleithiau America ![]() |
Mae'r nofel yn enwog am ei chynhesrwydd a'i hiwmor, er gwaetha'r ffaith ei bod yn delio a materion difrifol megis trais rhywiol a hiliaeth. Ystyrir cymeriad y tad yn y stori, Atticus Finch, yn arwr moesol ac yn symbol o onestrwydd ar gyfer cyfreithwyr.
To Kill a Mockingbird oedd yr unig lyfr i Lee gyhoeddi tan Go Set a Watchman ar 14 Gorffennaf 2015. Mae Lee yn parhau i ymateb i effaith ei nofel, er iddi ymwrthod ag unrhyw gyhoeddusrwydd personol ers 1964.