Tobar Mhoire
Tobar Mhoire (Saesneg: Tobermory) yw prif dref ynys Muile (Mull) yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban. Saif ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain yr ynys. Mae'r boblogaeth tua 700.
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 1,010 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Argyll a Bute |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.62°N 6.07°W |
Cod SYG | S20000062, S19000073 |
Cod post | PA75 |
Sefydlwyd y dref fel porthladd i bysgotwyr yn 1788, yn dilyn cynllun wedi ei baratoi gan Thomas Telford. Ymwelodd y cyfansoddwr Felix Mendelssohn a'r dref yn 1829, ar ei ffordd i Staffa, a chynhelir gŵyl gerddorol flynyddol i gofio'r digwyddiad.
Mae'r tai lliwgar ger yr harbwr yn nodedig. Ffilmiwyd y gyfres deledu i blant Balamory yma. Cynhyrchir wisgi a chwrw yma, ac mae yma ganolfan gelfyddydau, An Tobar.