Cwmni Cymreig sy’n creu gwirod yw Toffoc. Diod fodca blas toffi yw Toffoc ac mae’n 27.5% o gryfder.[1]

Toffoc
Enghraifft o'r canlynolfodca, busnes Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2005 Edit this on Wikidata
PencadlysYnys Môn Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Mae’r cwmni wedi ei leoli yn Llanbedrgoch, Ynys Môn, ac wedi ei sefydlu ers 2005 gan Dewi Roberts a Padrig Huws.

Gwerthir y diod hwn mewn siopau lleol ac mae’n cael ei allforio ar draws y byd gyda chanran helaeth o’r cynnyrch yn mynd i'r UDA. Gellir ei archebu ar-lein drwy wefan y cwmni.

Beirniadaeth

golygu

Ar adeg lansio’r ddiod yn 2004 cafodd ei feirniadu gan y Sefydliad Astudiaethau Alcohol, sy'n ymgyrchu i gynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau cymdeithasol ac iechyd alcohol. Roedd y sefydliad yn honni bod Toffoc yn annog pobl ifanc yn eu harddegau i yfed alcohol oherwydd byddai'r siwgr yn cuddio blas y fodca. Yn ôl cyfarwyddwr y sefydliad Andrew McNeill Mae blas alcohol yn rhwystr rhag dechrau yfed yn rhy gynnar. Mae diodydd melys yn pontio'r bwlch i bobl ifanc nad ydynt yn hoffi blas alcohol. Mae'r ddiod hon yn union yr hyn nad oes arnom ei angen ar hyn o bryd. Mae gennym argyfwng o oryfed mewn pyliau, a dyma'r criw hwn yn creu diod â blas melys. Bydd un mesur ohono'n eu meddwi. [2]

Derbyniad

golygu

Er gwaethaf y feirniadaeth gan y Sefydliad Astudiaethau Alcohol mae'r ddiod wedi cael derbyniad wresog gan eraill gan gynnwys y BBC Good Food Show [3] a'r cyn Brif Weinidog Tony Blair[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Toffoc.com". www.toffoc.com. Cyrchwyd 2018-07-21.
  2. Wales online 29 Gorffennaf 2004, Toffoc proves a hit with drinkers adalwyd 23 Gorffennaf 2018
  3. BBC Good Food Show -Toffoc[dolen farw] adalwyd 23 Gorffennaf 2018
  4. O'Boyo the Prime Minister loves Toffoc![dolen farw] adalwyd 23 Gorffennaf 2018