Ynys Môn

ynys yng ngogledd-orllewin Cymru

Sir ac ynys yng ngogledd-orllewin Cymru yw Ynys Môn (Saesneg: Anglesey, Lladin: Mona). Gwahenir yr ynys oddi wrth y tir mawr gan gulfor Afon Menai. Cysylltir y tir mawr â'r ynys gan ddwy bont, y bont wreiddiol Pont y Borth a godwyd gan Thomas Telford ym 1826 a'r un fwy, Pont Britannia sydd yn cysylltu'r A55 â'r ynys ynghyd â Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae yna 69,751 o bobl yn byw ar yr ynys yn ôl Cyfrifiad 2011, gyda 57.2% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg (i lawr o 60.1% yn 2001).[1][2]

Ynys Môn
ArwyddairMôn Mam Cymru Edit this on Wikidata
Mathynys, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Poblogaeth70,043 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd749.0227 km² Edit this on Wikidata
GerllawSianel San Siôr, Môr Iwerddon Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwynedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.29398°N 4.37673°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000001 Edit this on Wikidata
GB-AGY Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Edit this on Wikidata
Manylion
Logo y Cyngor
Map OS o'r ynys o 1946

Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae Ynys Gybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Dynodwyd arfordir yr ynys yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd o'i chwmpas. Er i rannau o'r sir gael eu Seisnigeiddio dros y degawdau diweddar wrth i bobl symud yno i fyw o Loegr a llefydd eraill, erys Môn yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a gellir cyfrif rhan sylweddol ohoni yn rhan o'r Fro Gymraeg. Gweinyddir y sir gan Gyngor Sir Ynys Môn sydd â'i bencadlys yn Llangefni. Un diwrnod  tua 8,400 blwyddyn yn ôl Ynys Mȏn wedi gwyhanu o Cymru ac dyna pam mae’r Ynys yw Ynys Mȏn.

Ynys Môn yng Nghymru

Enwau'r ynys golygu

Ymddengys enw'r ynys gyntaf mewn ysgrifen yng nghofnodion yr awduron clasurol yn ei ffurf Ladin fel Mona. Dywed ysgolheigion enwau lleoedd nad oes eglurhad boddhaol ar ystyr yr enw "Môn", a'i fod yn ôl pob tebyg yn tarddu o wraidd cyn-Geltaidd. Mae enw Saesneg yr ynys o darddiad Llychlynnaidd, a cheir y cyfeiriad cynharaf at Anglesege yn 1098. Ymddengys mai'r ystyr yw "ynys Ongull", lle mae Ongull yn enw person.[3] Ceir nifer o enwau eraill ar yr ynys, megis yr Ynys Dywyll ac Ynys y Cedairn.

Daeareg a Daearyddiaeth golygu

 
Eglwys Llanbadrig ar arfordir gogleddol Môn

Daearyddiaeth golygu

Gydag arwynebedd o 720 km2, Ynys Môn yw ynys fwyaf Cymru.[4] Hi yw'r bumed fwyaf o'r ynysoedd llai Ynysoedd Prydain, heb gynnwys dwy ynys fawr, sef Ynys Prydain ac Iwerddon. Mae bron y cyfan o'r ynys yn dir cymharol isel; y pwynt uchaf yw Mynydd Twr ar Ynys Cybi, 220 medr (722 troedfedd). Y pwyntiau uchaf ar y brif ynys yw Mynydd Bodafon (178 medr) a Mynydd Eilian (177 medr), tra mae Mynydd Parys ychydig yn is. O gwmpas y brif ynys, ceir nifer o ynysoedd llai. Y fwyaf o'r rhain yw Ynys Cybi, ynys ail-fwyaf Cymru gydag arwynebedd o 39.44 km2 (15.22 mi2), lle ceir tref fwyaf Môn, Caergybi, ac sydd â chob yn ei chysylltu â'r brif ynys. Ymysg yr ynysoedd eraill mae Ynys Seiriol, Ynys Moelfre ac Ynys Llanddwyn. Gwahenir yr ynys o'r tir mawr gan Afon Menai, sydd tua 14 milltir o hyd. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei rhan orllewinol, er ei bod yn culhau eto ger Trwyn Abermenai yn ei heithaf gorllewinol. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Phenmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy.

Ceir nifer o lynnoedd naturiol, yn bennaf yng ngorllewin yr ynys, yn cynnwys Llyn Coron, Llyn Traffwll a Llyn Llywenan. Mae dwy gronfa ddŵr fawr wedi eu creu, Llyn Alaw a Llyn Cefni. Cymharol fychan yw'r rhan fwyaf o afonydd Môn, sy'n cynnwys Afon Cefni, Afon Alaw ac Afon Braint. Ceir nifer o gorsydd ar yr ynys hefyd. Ar un adeg, roedd Cors Ddyga yn ymestyn yr holl ffordd o Falltraeth hyd at gyrion Llangefni, hanner y ffordd ar draws yr ynys.

 
Tarian y Sir ers 1996

Daeareg golygu

Yn ddaearegol, mae llawer o greigiau Môn yn perthyn i'r cyfnod Cyn-Gambriaidd. Daw'r rhain i'r wyneb mewn pedair ardal:

  1. Caergybi a Llanfaethlu,
  2. Aberffraw a Trefdraeth,
  3. Niwbwrch, Y Gaerwen a Pentraeth,
  4. Glyn Garth, rhwng Porthaethwy a Biwmares.

Ystyrir fod Ynys Môn yn cynnwys yr amrywiaeth fwyaf o greigiau o'r cyfnod Neobroterosöig hyd y cyfnod Palalosöig (700–300 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o fewn ardal fechan ym Mhrydain [5] Ceir creigiau iau mewn rhai mannau, yn arbennig creigiau Carbonifferaidd yn ne-ddwyrain yr ynys, yn cynnwys calchfaen, er enghraifft yn ardal Penmon.[6] Ym mis Mai 2009, dynodwyd Ynys Môn fel Geoparc gan UNESCO dan yr enw GeoMôn.

Bywyd gwyllt golygu

 
Y Wiwer Goch

Nid oes unrhyw goedwig naturiol o faint sylweddol yn parhau ar yr ynys, ac ymddengys fod hyn wedi bod yn wir am rai canrifoedd o leiaf. Yr unig goedwigoedd mawr yw'r rhai conifferaidd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod yr 20g; y mwyaf o'r rhain yw Coedwig Niwbwrch yn ne-orllewin yr ynys a Choedwig Pentraeth ar Fynydd Llwydiarth yn y de-ddwyrain.

Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt ar Ynys Môn, a sefydlwyd nifer o warchodfeydd ar yr ynys. Mae'r ynys yn un o ychydig gadarnleoedd y Wiwer Goch ym Mhrydain, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu ymgyrch i ddifa'r Wiwer Lwyd o'r ynys i roi cyfle i'r goch ffynnu.[7] Ceir y boblogaeth fwyaf o'r Wiwer Goch yng Nghoedydd Pentraeth.

Ymhlith y gwarchodfeydd ar yr ynys mae gan yr RSPB warchodfeydd yn Ynys Lawd, Gwlypdiroedd y Fali a Chors Ddyga. Ar greigiau gwarchodfa Ynys Lawd, mae rhai cannoedd o barau o'r Wylog a'r Llurs yn nythu, ac ychydig barau o'r Pâl. Mae gwarchodfa Cemlyn yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sydd hefyd yn berchen gwarchodfa Cors Goch. Ceir nifer o blanhigion prin yma, ac ar ddwy ynys yn y llyn mae nifer sylweddol o Fôr-wenoliaid yn nythu. Y Fôr-wennol bigddu yw'r fwyaf cyffredin fel rheol, gyda dros fil o barau yn nythu yma ambell flwyddyn. Ceir hefyd niferoedd llai o'r Fôr-wennol gyffredin a Môr-wennol y Gogledd. Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bwysig fel man nythu Môr-wennol y Gogledd, gyda dros 2,000 o barau yn nythu yno yn 2006. Oherwydd pwysigrwydd y safle mae gwardeiniaid yr RSPB yn aros yno dros yr haf i'w gwarchod.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd yn berchen gwarchodfa Cors Goch, tra mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cors Erddreiniog a Chwningar Niwbwrch yn perthyn i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Demograffeg Môn golygu

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd poblogaeth yr ynys yn 69,751. Caergybi yw'r dref fwyaf, gyda phoblogaeth o 11,237 yn 2001; mae poblogaeth prif dref yr ynys, Llangefni yn 4,499. Mae poblogaeth Porthaethwy ac Amlwch oddeutu tair mil yr un, a dilynir hwy gan Llanfairpwllgwyngyll, Benllech a Biwmares.[8]

Roedd 60.13% o boblogaeth yr ynys yn medru siarad Cymraeg yn 2001, y ganran ail-uchaf ymhlith awdurdodau Cymru. Fesul cymuned, roedd y ganran oedd yn siarad Cymraeg yn amrywio o 83.85% yng nghymuned Llangefni i 37.05% yng nghymuned Llanfair-yn-neubwll.[9]

Roedd y ganran o'r boblogaeth oedd dros oedran ymddeol wedi cynyddu o 20.5% yn 1991 i 28.5% yn 2001. Dewiswyd Môn fel un o'r tair ardal yng ngwledydd Prydain ar gyfer ymarfer peilot i baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2011 yn 2009.[10]

Hanes Ynys Môn golygu

Y cyfnod cyn-hanesyddol golygu

 
Bryn Celli Ddu

Ceir cryn nifer o gromlechi neu siambrau claddu o Oes y Cerrig Newydd ar yr ynys, y rhan fwyaf ohonynt yn esiamplau o feddau cyntedd, ac yn dangos tebygrwydd i feddau o'r un cyfnod yn Iwerddon. Yn Oes yr Efydd, newidiodd y dull o gladdu. Y beddrod enwocaf o'r cyfnod hwn ar yr ynys yw Bedd Branwen, ger afon Alaw. Mae nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn i'w cael ar yr ynys hefyd, er enghraifft Din Silwy (Bwrdd Arthur). Y darganfyddiad enwocaf o'r cyfnod yma yw'r casgliad mawr o arfau a chelfi eraill yn arddull diwylliant La Tène a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach yng ngogledd-orllewin yr ynys. Credir fod y rhain wedi eu gosod yn y llyn fel offrymau.

Ymhlith yr henebion o'r cyfnod hwn mae:

Cyfnod y Rhufeiniaid ac Oes y Saint golygu

 
Din Llugwy: gweddillion un o'r tai crwn

Ymosododd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd eu gelynion yn gallu cael lloches. Roedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi eu gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael copr yno. Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn 60 neu 61 O. C. pan groesodd byddin dan Gaius Suetonius Paulinus dros Afon Menai mewn cychod a chipio'r ynys.

Ar y lan gyferbyn yr oedd byddin y gelyn, tyrfaoedd o wŷr arfog, a merched yn rhuthro'n ôl a blaen drwy'r rhengoedd, wedi eu gwisgo mewn du fel ellyllon, eu gwallt yn chwifio yn yr awyr, a ffaglau'n fflamio yn eu dwylo. O'u hamgylch yr oedd y Derwyddon yn sefyll, eu dwylo wedi eu codi tua'r nefoedd, yn tywallt eu gweddïau erchyll.

—Tacitus, cyf. J. Owen Jones[11]

O eiriau Tacitus, mae llawer o haneswyr wedi casglu fod yr ynys o bwysigrwydd mawr i'r Derwyddon. Fodd bynnag, nid yw Tacitus yn dweud hynny'n benodol. Bu'r Rhufeiniaid ym mwyngloddio copr ym Mynydd Parys, ac adeiladwyd caer, Caer Gybi, ar yr arfordir. Nid oes sicrwydd am ei dyddiad, ond credir ei bod yn perthyn i gyfnod olaf rheolaeth y Rhufeiniaid, a bod ganddi gysylltiad â'r llynges. Gerllaw, roedd tŵr gwylio ar Fynydd Twr.

Yn ôl y traddodiad, ymsefydlodd Gwyddelod ar Ynys Môn wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, nes i'r brenin Cadwallon Lawhir, tad Maelgwn Gwynedd, eu gorchfygu yn gynnar yn y 6g a'u gyrru o'r ynys. Erbyn y cyfnod yna, roedd Cristnogaeth yn lledaenu tros yr ynys. Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae Cybi, Seiriol, Dona ac wrth gwrs Dwynwen, santes cariadon Cymru, y ceir ei heglwys ar Ynys Llanddwyn.

Mae henebion yr ynys o'r cyfnod hwn yn cynnwys:

  • Din Lligwy – gweddillion stad frodorol o'r cyfnod Rhufeinig.

Y Canol Oesoedd golygu

 
Carreg fedd Cadfan ap Iago, brenin Gwynedd, yn eglwys Llangadwaladr ger Aberffraw

Aberffraw ar arfordir gorllewinol Ynys Môn oedd prif lys brenhinoedd a thywysogion Teyrnas Gwynedd, a disgrifir teyrn Gwynedd yn aml fel "Brenin Aberffraw" neu "Tywysog Aberffraw". Yn yr Oesoedd Canol roedd Ynys Môn yn cynnwys y cantrefi a chymydau canlynol:

Dioddefodd yr ynys ymosodiadau gan y Llychlynwyr, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn 987, a thalodd brenin Gwynedd, Maredudd ab Owain, swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Yn 1994,cafwyd hyd i safle archeolegol yn Llanbedrgoch sef olion sefydliad o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

 
Cofeb Hywel ab Owain ar Draeth Coch ger Pentraeth

Ymladdwyd nifer o frwydrau ar yr ynys. Yn 1088 ymunodd Hugh d'Avranches, Iarll Caer gyda Hugh arall, Iarll Amwythig i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd oddi ar Gruffudd ap Cynan. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin Norwy, Magnus III, a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol Afon Menai. Gadawodd y Normaniaid yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymryd meddiant. Yn 1157, pan ymosododd Harri II ar Owain Gwynedd, gyrrodd Harri lynges i ymosod ar Ynys Môn tra'r oedd prif fyddin y brenin yn ymosod ar hyd arfordir gogledd Cymru. Glaniodd y llynges ym Môn, ond gorchfygwyd hwy gan y Cymry lleol, gyda Henry FitzRoy, mab gordderch Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr, yn un o'r lladdedigion. Yn 1170, lladdwyd Hywel ab Owain Gwynedd mewn brwydr yn erbyn ei frawd Dafydd ym Mrwydr Pentraeth. Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar 6 Tachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a milwyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Roedd y Saeson wedi meddiannu Môn, ond gorchfygwyd hwy pan geisiasant groesi i Arfon.

Pan oedd Tywysogion Cymru yn ymladd yn erbyn y gelyn roeddent yn aml yn dibynnu ar Ynys Môn am eu cyflenwad o ŷd. Yn ystod rhyfel 1282 yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd, cofnodir i Edward I, Brenin Lloegr yrru gweithwyr i'r ynys i gipio'r cynhaeaf. Wedi marwolaeth Llywelyn, adeiladodd Edward gastell ym Miwmares i'w helpu i ddal ei afael ar yr ynys.

 
Priordy Penmon: y ffreutur a'r man cysgu

Yn y blynyddoedd wedi'r goncwest Edwardaidd, roedd teulu Tuduriaid Penmynydd yn arbennig o ddylanwadol ar yr ynys, er iddynt golli llawer o'u tiroedd fel cosb am gefnogi Owain Glyndŵr.

Ymhlith yr henebion o'r cyfnod yma mae:

Y cyfnod diweddar golygu

 
Pont y Borth o Ynys Môn

Bu llawer o ymladd ar yr ynys adeg y rhyfel cartref rhwng y brenin ac Oliver Cromwell. Y teulu mwyaf dylanwadol ar yr ynys yn y cyfnod yma, a hyd ddechrau'r 19g, oedd teulu Bulkeley, Baron Hill ger Biwmares.

Ar 2 Mawrth 1768 cafwyd hyn i haen fawr o gopr ym Mynydd Parys ger Amlwch. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod. Erbyn diwedd y 18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle am longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.

Hyd at ddechrau'r 19g, roedd yn rhaid defnyddio'r fferi i groesi o'r tir mawr i Fôn. Fferi Bangor i Borthaethwy oedd y bwysicaf ohonynt, ac mae cofnod i Elisabeth I o Loegr osod yr hawl i un John Williams yn 1594. ‘Roedd Undeb Prydain Fawr gydag Iwerddon wedi creu galw am gryfhau’r cysylltiad ymarferol rhwng Llundain a Dulyn. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd Thomas Telford i adeiladu pont dros Afon Menai ac i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o Lundain i Gaergybi. Cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu Pont y Borth ar 10 Awst 1819 wrth osod y garreg sylfaen. Agorwyd y bont i’r cyhoedd (er bod angen talu toll) am 1.35am ar 30 Ionawr 1826.

Erbyn hyn, roedd y rheilffyrdd yn datblygu, ac adeiladwyd Pont Britannia ar gyfer Rheilffordd Caer a Chaergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson. Fel Pont y Borth, ‘roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatáu mynediad tani i longau hwylio. Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth, 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y rheilffordd mewn naw awr o gymharu â rhyw ddeugain awr ar y goets.

Yn 1974 peidiodd Môn a bod yn sir, pan unwyd hi a Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i greu sir newydd Gwynedd. Yn 1996, daeth yn sir unwaith eto.

Gwleidyddiaeth golygu

 
Canol tref Llangefni

Heddiw Llangefni yw prif dref yr ynys, ac yno mae pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn. Cynghorwyr annibynnol sydd yn y mwyafrif ar y cyngor. Ers etholiad 2008, dim ond Plaid Cymru a'r Blaid Lafur sydd wedi eu trefnu yn grwpiau pleidiol ar y cyngor. Mae gweddill y cynghorwyr, yn aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill ac yn Annibynwyr, yn ymrannu yn grwpiau neu ffasiynau answyddogol: y mwyaf o'r ffasiynau hyn ar hyn o bryd (ers 2008) yw'r 'Annibynwyr Gwreiddiol', gyda 22 o gynghorwyr.

Mae'r ynys yn Etholaeth Cynulliad ac yn Etholaeth Seneddol ac yn rhan o Ranbarth Gogledd Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yw Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac Albert Owen (Plaid Lafur) yw'r Aelod Seneddol. Ynys Môn yw'r unig etholaeth yng Nghymru i gael ei chynrychioli yn San Steffan gan bedair plaid wahanol yn ystod yr 20g. Daliodd Megan Lloyd George y sedd dros y Rhyddfrydwyr o 1929 hyd 1951, yna daliwyd hi gan Cledwyn Hughes dros y Blaid Lafur o 1951 hyd 1979, gan Keith Best dros y Ceidwadwyr o 1979 hyd 1987 a gan Ieuan Wyn Jones dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001.

Cymunedau Ynys Môn golygu

Economi golygu

 
Atomfa'r Wylfa

Y ddau brif ddiwydiant ar yr ynys yw twristiaeth ac amaethyddiaeth. Er nad yw'r rhan fwyaf o dir Môn yn arbennig o ffrwythlon, mae'r tir isel yn eu gwneud yn llawer haws tyfu cynydau nag yn y rhannau cyfagos o'r tir mawr. Oherwydd pwysigrwydd y cymydau a dyfid ar yr ynys, mae'r ynys wedi bod yn adnabyddus ers canrifoedd lawer fel "Môn Mam Cymru". Ceir y cyfeiriad cynharaf at yr enw sydd ar glawr yn y llyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188) gan Gerallt Gymro:

Y mae Môn yn ddaear sych a charegog, yn afluniaidd iawn ac anhyfryd yr olwg; yn debyg iawn, yn ei hansawdd allanol, i wlad Pebidiog, sydd yn ffinio ar Dyddewi, eithr yn dra gwahanol iddi, er hynny, yng nghynhysgaeth fewnol ei natur. Canys y mae'r ynys hon yn anghymharol fwy cynhyrchiol mewn grawn gwenith na holl ardaloedd Cymru: yn gymaint felly ag y mae'n arfer diarhebu'n gyffredin yn yr iaith Gymraeg, "Môn Mam Cymru". Oherwydd pan fyddo'r holl ardaloedd eraill ymhobman yn methu, y mae'r wlad hon, ar ei phen ei hun, yn arfer cynnal Cymru i gyd â'i chnwd bras a thoreithiog o ŷd.

—Hanes y Daith Trwy Gymru, Gerallt Gymro

Mae cadw gwartheg hefyd wedi bod yn elfen bwysig yn amaethyddiaeth yr ynys ers canrifoedd. Yn y 18g roedd un o'r llwybrau porthmyn yn cychwyn ym Môn. Byddai'r gwartheg a gesglid o'r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i Borthaethwy, a chyn codi'r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio'r Fenai gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt. Erbyn hyn, mae cadw gwartheg yn llawer mwy cyffredin na thyfu cnydau ar yr ynys.

Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref Gwalchmai.

Datblygodd twristiaeth o ganlyniad i adeiladu'r pontydd, oedd yn gwneud mynediad i'r ynys yn llawer haws. Dynodwyd y cyfan o arfordir Môn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn arwain mewn cylch o gwmpas yr ynys. Mae twristiaeth yn arbennig o bwysig i rai o'r trefi arfordirol megis Benllech a Rhosneigr. Dyfeisiwyd yr enw hir ar Lanfairpwll, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch, er mwyn annog twristiaeth.

Collwyd cryn nifer o swyddi ar yr ynys yn ystod 2009. Un o'r cyflogwyr mwyaf oedd Anglesey Aluminium Metal Ltd, a gaeodd ar 30 Medi 2009. Bwriedir i Atomfa'r Wylfa, cyflogwr mawr arall yng ngogledd yr ynys, roi'r gorau i gynhyrchu trydan yn Rhagfyr 2010, er bod posibilrwydd parhau i gynhyrchu am rai blynyddoedd wedyn. Mae trafod wedi bod am y posibilrwydd o adeiladu atomfa newydd ar y safle. Ymhlith cyflogwyr sylweddol eraill yr ynys, mae porthladd Caergybi a'r gwasanaethau fferi oddi yno i Dún Laoghaire a Dulyn, a gorsaf Llu Awyr Brenhinol y Fali sy'n cyflogi rhai cannoedd.

Cludiant golygu

 
Gorsaf reilffordd Caergybi

Y gwasanaeth fferi rhwng porthladd Caergybi a Dún Laoghaire a Dulyn yn Iwerddon yw un o'r cysylltiadau pwysicaf rhwng Iwerddon a Phrydain. Mae dau gwmni yn cynnig gwasanaeth fferi, Stena Line ac Irish Ferries. Ymhlith y llongau a ddefnyddir rhwng Caergybi a Dulyn, mae'r MS Ulysses, fferi yn perthyn i Irish Ferries sy'n medru cario mwy o geir nag unrhyw fferi arall yn y byd.

Gan fod hwn yn un o brif gysylltiadau Iwerddon â gweddill yr Undeb Ewropeaidd, mae'r cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd ar draws yr ynys o Bont Britannia i borthladd Caergybi o gryn bwysigrwydd. Caergybi yw cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe. Ceir nifer o orsafoedd bychain eraill ar yr ynys, yn Y Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll, ond nid yw pob trên yn aros yn y rhain.

Y brif ffordd ar draws yr ynys oedd yr A5, ond cymerwyd lle hon yn 2001 gan yr A55, sydd yn awr yn ffordd ddeuol ar draws yr ynys. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia. Mae'r A5025 yn ymestyn fel hanner cylch ar hyd dwyrain a gogledd yr ynys, rhwng Porthaethwy a'r Fali, trwy Bentraeth, Benllech, Amlwch a Cemaes, gan gychwyn a gorffen ar yr A55. Ar ochr de-orllewinol yr ynys, mae'r A4080 yn ymestyn fel hanner cylch o'r A55 yn Llanfairpwllgwyngyll trwy Niwbwrch, Aberffraw a Rhosneigr, ac ail-ymuno a'r A55 ger Bryngwran.

Ceir hefyd wasanaeth awyr yn cysylltu Maes Awyr Môn yn y Fali a dinas Caerdydd. Yn Ionawr 2010, adroddwyd fod cwmni Highland Airways, sy'n cynnal y gwasanaeth, mewn trafferthion ariannol.

Addysg golygu

Addysg uwch golygu

Mae gan Goleg Menai gampws yn Llangefni, tra mae Porthaethwy yn gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Cymru, Bangor sydd yn defnyddio’r pier i gartrefu’r llong ymchwil, Prince Madog.

Ysgolion uwchradd golygu

Ceir pum ysgol uwchradd ar yr ynys. Ysgol Uwchradd Caergybi oedd yr ysgol gyfun gyntaf yng Nghymru a Lloegr.

Ysgolion cynradd golygu

Ceir 52 o ysgolion cynradd ar yr ynys, yn cynnwys:

  • Ysgol Aberffraw
  • Ysgol Amlwch
  • Ysgol Garreglefn, Amlwch
  • Ysgol Beaumaris
  • Ysgol Goronwy Owen, Benllech
  • Ysgol Bodedern
  • Ysgol Bodffordd
  • Ysgol Bodorgan
  • Ysgol Bryngwran
  • Ysgol Brynsiencyn
  • Ysgol Y Tywyn, Caergeiliog
  • Ysgol Ty Mawr, Capel Coch
  • Ysgol Cemaes
  • Ysgol Dwyran
  • Ysgol Esceifiog, Gaerwen
  • Ysgol Llanfairpwllgwyngyll
  • Ysgol Llanfechell
  • Ysgol Corn Hir, Llangefni
  • Ysgol y Graig, Llangefni
  • Ysgol Llangoed
  • Ysgol Henblas, Llangristiolus
  • Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad
  • Ysgol Niwbwrch
  • Ysgol Pencarnisog
  • Ysgol Pentraeth
  • Ysgol Penysarn
  • Ysgol Rhoscolyn
  • Ysgol Rhosneigr
  • Ysgol Talwrn, Llangefni

Diwylliant golygu

Roedd nifer o Feirdd y Tywysogion yn frodorion o'r ynys, yn cynnwys teulu o feirdd a gysylltir â Threwalchmai; Meilyr Brydydd (fl. 1100–1147), Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130–1180) a Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12g). Ymhlith Beirdd yr Uchelwyr, roedd Gruffudd Gryg a Lewys Môn o Fôn, ac ysgrifennodd Gruffudd y gerdd gynharaf sydd ar glawr yn clodfori'r ynys.

Bu'r ynys yn ganolbwynt i adfywiad diwylliannol yn y 18g, pan dyfodd cylch o lenorion ac ysgolheigion o gwmpas Morysiaid Môn, yn wreiddiol o blwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, ac yn ddiweddarach Pentrerianell. Yr enwocaf o'r teulu oedd Lewis Morris (1701–1765). Ymhlith y beirdd oedd yn rhan o'r cylch yma, daeth Goronwy Owen yn enwog. Bardd alltud oedd, wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed, ond mae ei gerdd i'r ynys yn un o'i weithiau enwocaf:

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.
Goludog, ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen.

Eisteddfodau golygu

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Môn yn flynyddol mewn gwahanol fannau ar yr ynys. Dilyna'r un drefn a'r Eisteddfod Genedlaethol yn fras, gyda seremonïau megis y Cadeirio, ac mae ganddi ei Gorsedd ei hun. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yng Nghaergybi yn 1907.[12]

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod ym Môn bedair gwaith yn ystod yr 20g: Caergybi 1927, Llangefni 1957, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1983 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999.

Pobl enwog o Fôn golygu

Yn enedigol o'r ynys golygu

Gyda phrif lys Teyrnas Gwynedd yn Aberffraw, mae'n debyg fod llawer o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd wedi eu geni ar yr ynys, ond nid oes cofnod o fan geni'r rhan fwyaf.

Eraill a chysylltiad agos a'r ynys golygu

Partneriaethau rhyngwladol golygu

Geirdarddiad golygu

Mae canlyniadau ymchwiliadau DNA diweddar sy'n cysylltu cyndadau'r Cymry â'r Basgwyr yn codi'r posibilrwydd bod yr enw Môn (Mona yn yr Hen Frythoneg) yn rhannu'r un tarddiad â'r gair Basgeg amona, "nain", yn llythrennol "mam fawr".

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • A.D. Carr, Medieval Anglesey (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1982)
  • Bobi Jones, Crwydro Môn (Llyfrau'r Dryw, 1957)
  • W. Eifion Jones (gol.), A New Natural History of Anglesey (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1990)
  • Frances Lynch, Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1970)
  • David A. Pretty, Two centuries of Anglesey schools, 1700-1902 (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1977)
  • Melville Richards (gol.), Atlas Môn (Cyngor Gwlad Môn, 1972) ISBN 0950246611
  • Jack Treagus Daeareg Ynys Môn - arweinlyfr maes (GeoMôn, 2008)
  • J. E. Caerwyn Williams (gol.), Llên a llafar Môn (Cyngor Gwlad Môn, 1963)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-2021 - Fforwm Strategol Iaith Ynys Môn" (PDF). Cyngor Sir Ynys Môn. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2021-04-17.
  2. "Proffil Iaith: Darlun o sefyllfa'r Gymraeg ar Ynys Môn" (PDF). Menter Iaith Môn. Chwefror 2021.
  3. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 17
  4. Angleseynature.co.uk
  5. Daeareg Ynys Môn - arweinlyfr maes t. 12
  6. Daeareg Ynys Môn - arweinlyfr maes t. 10-11
  7. Gwiwerod Môn yn swyno'r sêr
  8. "Cyngor Sir Môn: Gwybodaeth am yr ynys o gyfrifiad 2001". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-24. Cyrchwyd 2010-02-01.
  9. "Cynllunio a'r Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Ynys Môn" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-12-26. Cyrchwyd 2010-01-28.
  10. http://www.ons.gov.uk/census/index.html Archifwyd 2008-09-15 yn y Peiriant Wayback. Safle We'r Cyfrifiad (Saesneg)
  11. Ynys Môn (Bro'r Eisteddfod 3) t. 31
  12. Hanes Eisteddfod Môn, BBC Cymru

Dolenni allanol golygu