Tref ar arfordir gorllewinol Ynys Vancouver, Canada, yw Tofino.

Tofino
Delwedd:Tofino.Vue vers l'est.JPG, Tofino sunset 2014.jpg
Mathtref, district municipality Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVicente Tofiño de San Miguel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1932 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAlberni-Clayoquot Regional District Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd4.07 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.1527°N 125.9044°W Edit this on Wikidata
Map

Mae llwyth Nuu-chah-nulth wedi byw yn yr ardal ers miloedd o flynyddoedd.

Daeth y fforwyr Dionisio Alcalá Galiano a Cayetano Valdés ym 1792 a chafodd Mewnfa Tofino ei henwi er cof Vincente Tofino, sydd wedi dysgu Galiano am gartograffeg yn ystod eu fforiad.

Sefydlwyd safle marchnata, sef Clayoquot, yn y 1850au, a'r dref Tofino ym 1909, yn cymryd enw'r fewnfa. Adeiladwyd ffordd o Borth Alberni ar gyfer fforestiaeth ym 1959, ac roedd y ffordd ar gael i dwristiaid dros benwythnosau. Erbyn y 1960au hwyr, roedd Tofino'n lle poblogaidd iawn. Crewyd Parc Genedlaethol Ymylon Môr Tawel ym 1970. Gosodwyd tarmac ar y ffordd ym 1972, a daeth y ffordd yn derfyn gorllewinol i'r Ffordd Traws-Ganada. Yn 2000, daeth Swnt Clayoquot yn Safle Biosffêr UNESCO. Mae 25.000 o forfilod llwyd yn pasio bob mis Mawrth ar eu ffordd o Baja i Alasga ac mae gan yr ardal gyfoeth o bysgod ac adar hefyd.[1]

Sefydlwyd maes awyr milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn hyn mae wedi dod yn Faes Awyr The Tofino-Long Beach (YAZ), 11 cilomedr i de-ddwyrain Tofino.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tudalen hanes ar wefan y dref". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-19. Cyrchwyd 2015-11-16.
  2. "Gwefan maes awyr Tofino". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-01. Cyrchwyd 2015-11-16.

Dolen allanol golygu