Morfil Llwyd
Morfil llwyd | |
---|---|
Morfil llwyd | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cetacea |
Teulu: | Eschrichtiidae |
Genws: | Eschrichtius |
Rhywogaeth: | E. robustus |
Enw deuenwol | |
Eschrichtius robustus (Lilljeborg, 1861) |
Morfil o deulu'r Eschrichtiidae yw'r morfil llwyd (Eschrichtius robustus). Ef yw'r unig aelod o'r teulu sy'n fyw heddiw. Gall y rhai mwyaf gyrraedd hyd o tua 15 medr a phwysau o tua 35 tunnell.
Ceir dwy boblogaeth yn y Cefnfor Tawel. Mae'r boblogaeth fwyaf yn mudo rhwng y dyfroedd o gwmpas Alasga, lle mae'n bwydo, a Gwlff Califfornia, ger penrhyn Baja California ar arfordir gorllewinol Mecsico, lle genir y lloi. Mae'r boblogaeth arall, sy'n llawer llai ac mewn perygl, yn mudo rhwng Môr Ockotsk a De Corea. Credir nad oes mwy na 101 o'r boblogaeth yma, tra amcangyfrifir fod y boblogaeth americanaidd rhwng 17,000 a 26,000.
Mae gan Wicirywogaeth wybodaeth sy'n berthnasol i: Eschrichtius robustus |