Tolpuddle
pentref yn Dorset
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, ydy Tolpuddle.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dorset.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Burleston and Tolpuddle |
Poblogaeth | 494 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dorset (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.7488°N 2.2962°W |
Cod SYG | E04003609 |
Cod OS | SY792944 |
Mae'r pentref yn enwog fel cartref Merthyron Tolpuddle, chwech o ddynion a ddedfrydwyd i gael eu halltudio i Awstralia yn 1834 ar ôl iddynt ffurfio undeb llafur. Mae amgueddfa'n coffáu y merthyron, ac mae gŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yn y pentref.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 29 Gorffennaf 2018