Tom Ellis (actor)

actor a aned yn 1978

Actor Cymreig yw Tom Ellis (ganwyd 17 Tachwedd 1978)[1] sy'n adnabyddus am chwarae Dr. Oliver Cousins yn yr opera sebon EastEnders ar BBC One. Roedd yn chwarae Sam yng nghyfres gomedi Pulling a Gary yn y comedi sefyllfa Miranda, y ddau ar y BBC. Mae'n fwy adnabyddus i wylwyr yn yr Unol Daleithiau am ddau sioe deledu lle mae'n chwarae'r prif gymeriad yn Rush (USA Network) a Lucifer (Fox).

Tom Ellis
Ganwyd17 Tachwedd 1978 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • High Storrs School
  • Royal Conservatoire yr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLucifer Edit this on Wikidata
PriodMeaghan Oppenheimer Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Ellis yng Nghaerdydd, yn fab i Marilyn Jean (Hooper) a Christopher John Ellis.[1] Mae ei dad, chwaer a ewythr i gyd yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr ac ei ewythr yw'r academydd Robert Ellis, sy'n bennaeth Coleg Regent's Park, Rhydychen, lle aeth ei dad i astudio.[2] Mynychodd Ellis Ysgol Uwchradd Storrs yn Sheffield ac roedd yn chwarae'r corn Ffrengig yng Ngherddorfa Iau Dinas Sheffield.

Gyrfa golygu

Mae ei rannau arall yn cynnwys Justyn ar gyfres Channel 4 No Angels a Thomas Milligan ym mhennod "Last of the Time Lords" o gyfres Doctor Who ar BBC One. Yng Ngorffennaf ac Awst 2009, serennodd Ellis yng nghomedi drama ITV Monday Monday gyda Fay Ripley. Yn 2013 fe'i castiwyd fel Victor Frankenstein yn y gyfres peilot Gothica ar sianel ABC yn America - drama goruwchnaturiol fodern.[3][4][5] Ellis oedd seren y gyfres rhwydwaith Americanaidd Rush, yn chwarae meddyg Hollywood. Yn Chwefror 2015, cyhoeddwyd fod Ellis wedi'i gastio fel Lucifer Morningstar yn y ddrama Lucifer (Fox Television), wedi eu seilio ar y comic o'r un enw, a cychwynnodd y gyfres ar 25 Ionawr 2016.[6]

Bywyd personol golygu

Roedd Ellis yn briod i'r actores Tamzin Outhwaite rhwng 2006 a 2014. Ar 25 Mehefin 2008 ganwyd eu merch cyntaf, Florence Elsie. Mae ganddo ferch arall, Nora, o berthynas blaenorol. Ar 20 Rhagfyr 2008, ymddangosodd y cwpl ar sioe ITV All Star Mr & Mrs. Ar 19 Mawrth 2012 cyhoeddoedd Ellis ar ei gyfrif Twitter fod Outhwaite yn feichiog gyda'i ail ferch, Marnie Mae, a anwyd ar 2 Awst 2012. Ar 29 Awst 2013 cyhoedodd Ellis a Outhwaite eu bod wedi gwahanu. Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod y cwpl wedi gwahanu a'r mis canlynol, gwnaeth Outhwaite gais am ysgariad gan gyfeirio at anffyddlondeb Ellis fel sail.[7][8][9]

Ffilmyddiaeth golygu

Rhannau ffilm a theledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2001 The Life and Adventures of Nicholas Nickleby John Browdie
2001–02 Nice Guy Eddie Frank Bennett
2001 High Heels and Low Lifes Police Officer
Buffalo Soldiers Squash
2003 Pollyanna Timothy
I'll Be There Ivor
2004 Messiah III: The Promise Dr. Phillip Ryder
Vera Drake Heddwas
2005 Much Ado About Nothing Claude
Midsomer Murders Lee Smeeton Pennod: "Midsomer Rhapsody"
Waking the Dead Harry Taylor Pennod: "Straw Dog"
2005–06 No Angels Justyn
2006 EastEnders Dr. Oliver Cousins
The Catherine Tate Show Detective Sergeant Sam Speed
2007 Suburban Shootout P.C. Haines
Doctor Who Tom Milligan
The Catherine Tate Christmas Show Detective Sergeant Sam Speed
2008 Trial & Retribution Nick Fisher
Miss Conception Zak
The Passion Apostle Philip/Philip
2009 Monday Monday Steven
2009–15 Miranda Gary Preston
2010 Dappers Marco
Merlin King Cenred
Accused Neil
2011 The Fades Mark Etches
Sugartown Max Burr
2012 Gates Mark Pearson
The Secret of Crickley Hall Gabe Caleigh
2013 Once Upon a Time Robin Hood Pennod: "Lacey"
2014 Rush Dr. William Rush Prif rhan
2015 The Strain Rob Bradley
2016–2021 Lucifer Lucifer Morningstar Prif rhan

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Famous family trees: Tom Ellis". findmypast.co.uk. 23 Ionawr 2013.
  2. "BBC Website on Miranda".
  3. Miranda's Tom Ellis to play Frankenstein in US pilot Gothica Radio Times. 22 Chwefror 2013.
  4. Hibberd, James (22 Chwefror 2013). "Hollywood Insider: What's Going on Behind the Scenes: TV's Pilot Season Goes (Very) High-Concept". Entertainment Weekly (New York: Time Inc.): 26. http://www.ew.com/ew/article/0,,20313460_20675336,00.html. Adalwyd 2016-06-08.
  5. "Tom Ellis, The Fades, Pulling, and Miranda, Gothica (TV 2013)". Dread Central. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
  6. "Lucifer – Tom Ellis Gets His Horns". Dread Central. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
  7. Kelby McNally. "Tamzin Outhwaite 'files for divorce from Tom Ellis, citing adultery'", Express, 10 September 2013.
  8. (No author.) "Tamzin Outhwaite 'Divorcing' Tom Ellis After He Reportedly Admits Cheating With One-Night Stand", Huffington Post UK, 9 Hydref 2013.
  9. Kelby McNally. "'We're all moving forward' Tom Ellis speaks out about Tamzin Outhwaite split", Express, 19 Medi2013.

Dolenni allanol golygu

Tom Ellis ar wefan Internet Movie Database