Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Tomas Francis (ganwyd 27 Ebrill 1992). Mae'n chwarae yn safle'r prop pen tynn. Mae'n chwarae i glwb yr Exeter Chiefs ar hyn o bryd.

Tomas Francis
Ganwyd27 Ebrill 1992 Edit this on Wikidata
Efrog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra185 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau129 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auExeter Chiefs, London Scottish F.C., Doncaster R.F.C., Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleprop Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Francis yn enedigol o Efrog a chafodd ei addysg yn Ysgol Sedbergh a Choleg Ampleforth. Graddiodd Tom o Brifysgol Leeds yn 2013 gyda gradd mewn Peirianneg Fecanyddol.

Arwyddodd Francis ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Doncaster Knights ym mis Chwefror 2012 pan oedd yn 19 oed. Roedd yn chwarae i glwb amatur Malton a Norton RUFC, ac yno y cyflwynwyd ef i rygbi pan oedd yn 4 oed.[1] Symudodd at Albanwyr Llundain yn 2013 ar ôl i Doncaster gael ei diraddio i National League 1, a chwaraeodd mewn 23 o gemau i'r clwb hwnnw cyn mynd at yr Exeter Chiefs y flwyddyn ganlynol.[2] Daeth i'r cae fel eilydd pan enillodd yr Exeter Chiefs yn erbyn Wasps a chael eu coroni yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr 2016-17.[3]

Gyrfa ryngwladol golygu

Mae Francis yn gymwys i chwarae dros Gymru drwy ei fam-gu, Eirlys Walters, a aned yn Abercraf.[4] Cafodd ei alw i hyfforddi gyda Chymru am y tro cyntaf ar 9 Mawrth 2015,[5] a chafodd ei ychwanegu i'r garfan cyn gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 yn erbyn yr Eidal.[6] Er hynny, bu raid iddo aros tan 29 Awst 2015 cyn ennill ei gap cyntaf, a hynny mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.[7]

Bu hefyd ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

Dechreuodd Francis bob un gêm heblaw'r un yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Malton and Norton's Tom Francis majors on upwardly mobile lift". York Press. 30 March 2012.
  2. "Exeter Chiefs sign London Scottish prop Tomas Francis". BBC Sport. 3 April 2014.
  3. "Premiership final: Wasps 20-23 Exeter Chiefs (aet)". BBC. 27 May 2017. Cyrchwyd 24 September 2018.
  4. "Cardiff Blues target Exeter Chiefs prop Tomas Francis but Joaquin Tuculet and Lucas Amorosino set to leave". Wales Online. 24 March 2015.
  5. "Six Nations 2015: Wales call in Scarlets hooker Ken Owens". BBC Sport. 9 March 2015.
  6. "Tomas Francis called up to Wales' Six Nations Squad". Exeter Express And Echo. 16 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 April 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Rugby World Cup warm-up: Ireland 10-16 Wales". BBC Sport. 29 August 2015.