Tomen y Bala
mwnt canoloesol yn y Bala, Gwynedd
Saif Tomen y Bala, (Cyfeirnod OS: SH929 360 ) y drws nesa i'r brif faes parcio yn Y Bala, Gwynedd. Castell mwnt a beili ydyw ac mae'n 40metr o ddiametr ac yn 9 metr o uchder.
Math | castell mwnt a beili, mwnt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.911534°N 3.595507°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME016 |
Bala oedd maerdref cwmwd Tryweryn yn yr adeg y'i codwyd – tua'r 11g. Roedd y domen yn dal yn amddiffynfa yn 1202 pan erlidiodd Llywelyn ap Iorwerth, Elis ap Madog, Arglwydd Penllyn o'i dir. Aeth Llywelyn yn ei flaen i godi castell cryfach yng Ngharndochan, ond parhaodd Tomen y Bala i fod yn eitha pwysig am gyfnod.