Castell Carndochan
Roedd Castell Carndochan yn un o gestyll Tywysogion Gwynedd. Saif ar ben bryn creigiog anghysbell tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o bentref Llanuwchllyn, de Gwynedd.
Math | castell, safle archaeolegol, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.860948°N 3.71403°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME049 |
Codwyd y castell gan Llywelyn Fawr, yn ôl pob tebyg, i warchod cantref strategol Penllyn a'r mynediad i brif diroedd Gwynedd o'r de-ddwyrain (cipiodd Llywelyn Benllyn oddi ar Bowys Wenwynwyn yn 1202). Mae'r castell yn sefyll ar fan uchaf trwyn creigiog o dir sy'n ymwthio allan ar waelod cwm mynyddig Pennant-lliw lle rhed Afon Lliw i aberu yn Afon Dyfrdwy. Oddi yno gellir gweld rhan helaeth o Benllyn, o lannau Llyn Tegid i odre'r Berwyn a'r fynedfa i gyfeiriad Gwynedd ar hyd Glyndyfrdwy. Roedd y Rhufeiniaid yn ymwybodol o bwysigrwydd strategol yr ardal gan eu bod wedi codi caer yng Nghaer Gai, tua dwy filltir i'r gorllewin o'r castell.
Erbyn heddiw mae'r castell yn adfail ond gellir gweld rhannau isaf y muriau i gyd. Torrywd ffos rhwng y castell a gweddill y gefnen o dir mae'n sefyll arno: mae'r tir mor syrth a garw fel bod dim angen llawer o amddiffyn ar y tair ochr arall. Adeiladwaith syml sydd iddo. Ni ddefnyddid llawer o forter yn y muriau. Yng nghanol y llenfur ceir sylfeini tŵr sgwâr (tebyg i'r hyn a welir yn Nolwyddelan, ond yn fwy amrwd). Roedd 'na dri thŵr arall ym mhennau gogledd—orllewinol, deheuol a dwyreiniol y castell. Yn rhyfedd iawn does dim olion porth i'w gweld o gwbl.
Mae'r castell ar dir preifat heb fynediad swyddogol iddo.
Llyfryddiaeth
golygu- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- A.H.A. Hogg, 'Castell Carndochan', Journal of the Merioneth Historical and Record Society Vol. 2, p. 178-81 (1953-6)