Yn ffiseg, tonnau disgyrchol yw crychiadau yng nghrymedd gofod-amser sy'n lledaenu fel tonnau, yn teithio allan o'r ffynhonnell. Cawsant eu darogan yn 1916[1][2] gan Albert Einstein ar sail ei ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol,[3][4] mewn theori mae tonnau disgyrchol yn cludo egni fel "pelydriad disgyrchol". Ar 11 Chwefror 2016 cyhoeddodd y grŵp LIGO, Virgo interferometer a GEO600 eu bod wedi darganfod prawf o fodolaeth tonnau disgyrchol ac enwyd y signal yn "GW150914".[5]

Ton ddisgyrchol
Mathymbelydredd, Ton, digwyddiad golau-amser Edit this on Wikidata
Deunyddgofod-amser Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod14 Medi 2015 Edit this on Wikidata
Rhan ogofod-amser Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darluniad dau-ddimensiwn o donnau disgyrchol wedi eu cynhyrchu gan ddau seren niwtron yn cylchdroi eu gilydd.

Mae'n bosib y gall ffynonellau o donnau disgyrchol gynnwys systemau sêr deuaidd wedi eu gwneud o gorachod gwynion, sêr niwtron, neu dyllau du. Mae bodolaeth tonnau disgyrchol yn ganlyniad posibl i anghyfnewidioldeb Lorentz ym mherthnasedd cyffredinol am ei fod yn cyflwyno'r syniad o gyfyngiad ar gyflymder lledu o gydadweithiau ffisegol. All tonnau disgyrchol ddim bodoli mewn damcaniaeth Newtonaidd o ddisgyrchiant, lle mae cydadweithiau ffisegol yn lledu ar gyflymder anfeidrol.

Cyn darganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol roedd yna dystiolaeth anuniongyrchol o'u bodolaeth.[6] Er enghraifft, gwobrwywyd Gwobr Ffiseg Nobel 1993 am fesuriadau o system ddeuaidd Hulse–Taylor oedd yn awgrymu fod tonnau disgyrchol yn fwy na chysyniad damcaniaethol. Ar hyn o bryd mae sawl datgelydd tonnau disgyrchol yn cael eu hadeiladu neu yn gweithredu, fel yr Advanced LIGO a gychwynnodd ei arsylwadau ym Medi 2015.[7]


Gellir mynegi'r plygiad gofod-amser mewn perthynas â ar ffurf tensor Einsteinaidd, . yw'r cysonyn disgyrchol Newtonaidd, a yw cyflymder golau, felly .

Darganfod tonnau disgyrchiol, 2016 golygu

Mesuriadau LIGO yn synhwyryddion Livingston (chwith) a Hanford (dde), o'u cymharu gyda'r gwerthoedd a ragwelwyd.

Yn Chwefror 2016, cyhoeddodd y tîm Advanced LIGO eu bod wedi dod o hyd i donnau disgyrchol o wrthdrawiad tyllau du gyda signal a gyrhaeddodd am 10.51 GMT ar 14 Medi 2015[8] o ddau dwll du (30 mas solar) yn asio i'w gilydd tua 1.3 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Synhwyrwyd y signal gan ddau synhwyrydd LIGO: Livingston a Hanford, gyda gwahaniaeth amser o 7 milieiliad, oherwydd yr ongl rhwng y ddau synhwyrydd. Daeth y ddau signal o Hemisffer y De.[9][10] Cyfranodd gwyddonwyr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn sylweddol i'r darganfyddiad wrth ddatblygu algorithmau a modelau cyfrifiadurol o systemau tyllau deuaidd. Roedd y modelau yma yn cael eu defnyddio i ddadansoddi'r data enfawr a oedd yn cael ei gynhyrchu gan arbrawf LIGO.[11]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Einstein, A (June 1916). "Näherungsweise Integration der Feldgleichungen der Gravitation". Sitzungsberichte der Königlich Preussischen Akademie der Wissenschaften Berlin part 1: 688–696. http://einstein-annalen.mpiwg-berlin.mpg.de/related_texts/sitzungsberichte.
  2. Einstein, A (1918). "Über Gravitationswellen". Sitzungsberichte der Königlich Preussischen Akademie der Wissenschaften Berlin part 1: 154–167. http://einstein-annalen.mpiwg-berlin.mpg.de/related_texts/sitzungsberichte.
  3. Finley, Dave. "Einstein's gravity theory passes toughest test yet: Bizarre binary star system pushes study of relativity to new limits". Phys.Org.
  4. The Detection of Gravitational Waves using LIGO, B. Barish
  5. Naeye, Robert (11 February 2016). "Gravitational Wave Detection Heralds New Era of Science". Sky and Telescope. Cyrchwyd 11 February 2016.
  6. "First Second of the Big Bang".
  7. "The Newest Search for Gravitational Waves has Begun". LIGO Caltech. LIGO. 18 September 2015. Cyrchwyd 29 November 2015.
  8. Overbye, Dennis (11 February 2016). "Physicists Detect Gravitational Waves, Proving Einstein Right". New York Times. Cyrchwyd 11 Chwefror 2016. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  9. Gravitational waves: scientists announce 'we did it!' – live , The Guardian, 11 Chwefror 2016.
  10. "Einstein's gravitational waves found at last". Nature News. doi:10.1038/nature.2016.19361. http://www.nature.com/news/einstein-s-gravitational-waves-found-at-last-1.19361.
  11. Synhwyro tonnau disgyrchol am y tro cyntaf erioed , BBC Cymru Fyww, 6 Chwefror 2016.