Cyfesurynnau: 90°0′0″S 0°0′0″E / 90.00000°S 0.00000°E / -90.00000; 0.00000

Hanner y Ddaear sydd i'r de o'r cyhydedd yw Hemisffer y De. Mae'n cynnwys rhannau o'r pum cyfandir[1] (Yr Antarctig, Awstralia, tua 90% o Dde America, traean deheuol o Affrica, sawl ynys deheuol cyfandir Asia ac Ynysoedd y Cefnfor Tawel. Mae Hemisffer y De hefyd yn cynnwys pedwar cefnfor: Cefnfor India, rhan deheuol Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor y De, y Cefnfor Tawel.

Llun enwog o Blaned Daear a dynnwyd o Apollo 17 ('Y Marmor Glas').
Poster gyda'r chwedl "Ushuaia, diwedd y byd". Ushuaia yn yr Ariannin yw'r ddinas fwyaf deheuol yn y byd.

Mae 80.9% ohono'n ddŵr - o'i gymharu â 60.7% yn Hemisffer y Gogledd, ac mae'n cynnwys 32.7% o holl dir y blaned.[2]

Oherwydd fod echel y Ddaear yn gogwyddo, o'i gymharu gyda'r Haul, a'r plan ecliptig, mae'r haf i'w gael rhwng Rhagfyr a Mawrth a'r gaeaf rhwng Mehefin a Medi. Ceir Cyhydnos y Gwanwyn ar 22 neu 23 o Fedi a Chyhydnos yr Hydref rhwng 20 a 21 o Fawrth. Mae Pegwn y De wedi'i leoli yn union yng nghanol Hemisffer y De.

Demograffeg golygu

Erbyn y 2010au roedd 800,000,000 o bobl yn byw o fewn Hemisffer y De; h.y. dim ond 10-12% o gyfanswm y boblogaeth y byd (7.3 biliwn), a hynny oherwydd fod llawer llai o dir yn y De o'i gymharu gyda Hemisffer y Gogledd.[3][4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Hemisphere Map". WorldAtlas. Cyrchwyd 13 Mehefin 2014.
  2. Life on Earth: A - G.. 1 (ABC-CLIO; 2002); isbn: 9781576072868 tud. 528. Gweler: [1] adalwyd 8 Medi 2016.
  3. "90% Of People Live In The Northern Hemisphere - Business Insider". Business Insider. 4 Mai 2012. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2015.
  4. "GIC - Article". galegroup.com. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2015.