Torri Gwynt
Rhaglen gomedi oedd Torri Gwynt a ddarlledwyd yn wreiddiol ar S4C rhwng 1983 ac 1987. Prif berfformiwr y sioe oedd Dewi Pws ynghyd a'i gyd-berfformwyr rheolaidd Nia Caron, Gareth Lewis a William Thomas. Roedd y gyfres yn cynnwys nifer o sgetsus deifiol, dwl a dychanol gyda chymeriadau selog fel 'Ricky Hoyw', 'Vic a Mansel', 'Elfed Celt' a theulu 66 Chemical Gardens, Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru.
Torri Gwynt | |
---|---|
Genre | Comedi |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 5 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
HTV Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 1983 – 1987 |
Un o gymeriadau mwyaf cofiadwy y gyfres oedd Ricky Hoyw, canwr gwallt euraidd mewn crysau blodeuog a'i frest flewog agored, yn canu caneuon serch a oedd yn gyfieithiadau Cymraeg (gwael) o ganeuon Saesneg. Roedd y chwaer rhaglen Rhagor o Wynt yn ddrama gomedi gyda'r un perfformwyr craidd ac yn gyfle i adrodd storiau hirach dros hanner awr - darlledwyd hwn rhwng 1986 ac 1989.
Mae'r gyfres yn cael ei hystyried yn un o glasuron comedi Cymraeg ac wedi eu ail-ddarlledu sawl gwaith ar S4C. Creuwyd sawl ymadrodd adnabyddus gan gymeriadau y rhaglen yn cynnwys "Blydi static!", "Odw glei", "Teli-fision".[1]
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Caneuon Ricky Hoyw ar YouTube