Dewi 'Pws' Morris

Actor, canwr, bardd a digrifwr o Gymro (1948-2024)
(Ailgyfeiriad o Dewi Pws)

Cerddor, bardd, actor a chomedïwr oedd Dewi 'Pws' Morris (21 Ebrill 194822 Awst 2024).[1][2] Roedd yn adnabyddus am fod yn brif leisydd y Tebot Piws ac yn ddiweddarach am ei gyfresi comedi Torri Gwynt ar S4C. Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011.

Dewi 'Pws' Morris
FfugenwDewi Pws Edit this on Wikidata
GanwydDewi Gray Morris Edit this on Wikidata
21 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Treboeth Edit this on Wikidata
Bu farw22 Awst 2024 Edit this on Wikidata
Nefyn Edit this on Wikidata
Man preswylTre-saith, Nefyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cerddor, bardd, digrifwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Dewi Gray Morris yn Nhreboeth, Abertawe.[3] Aeth i Ysgol Gymraeg Lôn Las ac yna Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe.[4] Daeth i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys. Wedi hynny, aeth i Goleg Cyncoed i hyfforddi'n athro a bu'n dysgu am rai blynyddoedd yn y Sblot, Caerdydd, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, datblygodd ei ddiddordeb ym myd actio, gyda swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru.[5]

 
Dewi Pws yn Ras yr Iaith. Bu'n arwain y Ras yn 2014 a 2016 ac am ddiwrnod yn 2018 gan roi o'i amser am ddim yn hybu a chodi hwyl y rhedwyr

Cerddoriaeth

golygu

Bu'n aelod o'r band pop cynnar Y Tebot Piws ac wedyn y supergroup Cymraeg cyntaf Edward H. Dafis. Enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda'i gân "Nwy yn y Nen". Ef a gyfansoddodd y gân nodedig "Lleucu Llwyd". Mae wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm ac mae wedi ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.[6]

Datganodd wrth y Cymro ym mis Ionawr 2010 y byddai'n gwrthod ymddangos ar nifer raglenni Radio Cymru bellach gan eu bod yn chwarae gormod o gerddoriaeth Saesneg. Eglurodd nad oedd Radio Wales yn chwarae caneuon Cymraeg, felly doedd dim rheswm i'r unig sianel radio cenedlaethol Cymraeg chwarae caneuon Saesneg.[7]

Actio a chomedi

golygu

Chwaraeodd y cymeriad "Wayne Harries" ar Pobol y Cwm o'r cychwyn yn 1974 hyd at 1987. Roedd ganddo un o'r brif rannau yn y ffilm gomedi eiconig Grand Slam yn 1978. Yn yr 1970au ymddangosodd yn y gyfres i blant Miri Mawr. Bu'n actio hefyd yn y gyfres sebon Taff Acre (HTV Cymru, 1981). Yn yr 1980au daeth i sylw ehangach yn perfformio ac ysgrifennu yn y gyfres comedi sgets Torri Gwynt. Yn y 1990au cynnar bu'n chwarae rhan tad y teulu yn y gomedi sefyllfa Hapus Dyrfa.[3]

Bu'n actor ar y gyfres deledu Rownd a Rownd ers dechrau'r gyfres yn 1995 hyd at 2007 ac enillodd wobr y cyflwynwr rhanbarthol gorau am ei raglen Byd Pws ar S4C yng ngwobrau'r Royal Television Society yn 2003.[8]

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod â Rhiannon a bu'n byw yn Nhre-saith[9] a'r Felinheli cyn ymgartrefu yn Nefyn, Gwynedd.[10] Cyhoeddodd ei hunangofiant, Theleri Thŵp, yn 2003.

Yn 2010 fe'i dderbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd, gan ddewis yr enw barddol "Dewi’n y Niwl".[11] Derbyniodd radd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ar 18 Rhagfyr 2018.[6]

Wedi cyfnod byr o waeledd, bu farw yn sydyn ar 22 Awst 2024, yng nghwmni ei wraig, yn eu cartref - Penbryn Holborn, Nefyn. Roedd yn 76 mlwydd oed.[1]

Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd Dewi yn Amlosgfa Bangor brynhawn Iau, 12 Medi am 1.30 y.p. Teithiodd yr hers a'r teulu o'u cartref ac ymlwybro drwy bentref Nefyn tua Morfa Nefyn ac yna heibio'r Bryncynan ar eu taith i Fangor.[12] Teithiodd dros 600 o bobl o bob rhan o'r wlad i fod yn bresennol.[13]

Cerddi coffi

golygu

Englyn coffa gan Annes Glynn

golygu
Dan leuad wen, cau'r llenni a wnaethost
ar daith llawn direidi
ond d'awen fu'n cân, Dewi,
a gwn nad anghofiwn hi.[14]

Englyn coffa gan Siôn Aled Owen

golygu
Dy stôr o gân a stori - a daenaist
â dawn ysbrydoli:
o oes dawn, gorffwysa di
yn dawel, ond heb dewi.[15]

Tri pheth sy'n gwasgu heno:

Bod Lleucu Llwyd yn wylo,

Mai tawel mwy yw'r Miri Mawr,

A nawr does neb i'n herio.[16]

Llyfryddiaeth

golygu
 
Clawr Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau

Straeon ar Grynoddisgiau

golygu
  • Straeon Cymru: 10 o Chwedlau Cyfarwydd (CD) (Scd2480) (Awduron: Esyllt Nest Roberts ac Elena Morus), Rhagfyr 2004 (Cwmni Recordiau Sain)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Y cerddor a'r actor Dewi 'Pws' Morris wedi marw'n 76 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-22. Cyrchwyd 2024-08-22.
  2. "Click here to view the tribute page for Dewi Grey MORRIS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-01.
  3. 3.0 3.1 "Pwy ydy Pwy yn Noson Lawen?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2007-10-31.
  4.  Cyngor Llyfrau Cymru Adnabod Bardd (PDF). Adalwyd ar 27 Ionawr 2016.
  5.  Llenyddiaeth Cymru - Rhestr Awduron Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2016.|
  6. 6.0 6.1 Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r diddanwr enwog o Gymru, Dewi Pws Morris. , Prifysgol Abertaw, 18 Rhagfyr 2018.
  7. "Dewi Pws Wedi Cael Llond Bol", Y Cymro, 15 Ionawr 2010.
  8. Ross wins TV entertainer award BBC 19 Mawrth 2003
  9. Erthygl o gylchgrawn Sgrîn
  10. Awn i ail Adfer bro... , BBC Cymru, 26 Tachwedd 2015. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2016.
  11. "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.
  12. "Click here to view the tribute page for Dewi Grey MORRIS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.
  13. "Cannoedd yn cofio Dewi 'Pws' Morris ar ddiwrnod ei angladd". newyddion.s4c.cymru. 2024-09-12. Cyrchwyd 2024-09-12.
  14. "Tudalen Facebook Annes Glynn". www.facebook.com. Cyrchwyd 2024-08-31.
  15. "Tudalen Facebook Siôn Aled Owen". www.facebook.com. Cyrchwyd 2024-08-31.
  16. https://x.com/RhiannonTanlan/status/1827091661312184750. Missing or empty |title= (help)