Torri cerrig
Gwaith y torrwr cerrig oedd torri cerrig ar gyfer y ffordd fawr (neu'r tyrpeg).[1]
Fel hyn y canodd Einion Ddu:[2]
Cnoc, cnoc roddai'r dyn
Ar ryw garreg fawr ddi-lun;
Er y curo, methai'n lân
Gael ohoni ddarnau mân.
Dal i guro wna drwy gur,
A dal ati fel y dur;
Dichon o dan bwys yr ordd
Y daw'n gymwys balmant ffordd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hugh Evans, Cwm Eithin (Gwasg y Brython, 1931)
- ↑ Einion Ddu (John Davies), Caneuon y Bwthyn (Dolgellau, 1878)