Cwm Eithin
Cyfrol gan Hugh Evans sy'n disgrifio bywyd gwerin cefn gwlad Cymru tua chanol y 19g yw Cwm Eithin. Fe'i cyhoeddwyd yn 1931 gan Wasg y Brython, Lerpwl, sef cwmni cyhoeddi'r awdur ei hun. Mae'n seiliedig ar brofion yr awdur o gymdeithas amaethyddol glos ei fro enedigol, yn Llangwm yn yr hen Sir Ddinbych.
Enghraifft o'r canlynol | copi o lyfr unigol |
---|---|
Awdur | Hugh Evans |
Cyhoeddwr | Hugh Evans |
Dyddiad cyhoeddi | 1931 |
Lleoliad cyhoeddi | Lerpwl |
Prif bwnc | cefn gwlad |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyhoeddwyd y deunydd gwreiddiol fel cyfres o ysgrifau yn Y Brython rhwng 1923 a 1926. Ail-luniodd yr awdur yr ysgrifau i'w cyhoeddi fel llyfr a fyddai'n disgrifio amgylchiadau bywyd, gwaith, crefydd, cymdeithas ac arferion ffermwyr bychain ac amaethwyr Gogledd Cymru yn yr oes a fu, gan fod y cof am y gymdeithas honno'n prysur ddiflannu yn ei ddyddiau ef. Fel yr esbonia yn ei gyflwyniad,
Credaf mai ychydig iawn o'r to sydd yn codi a ŵyr y nesaf peth i ddim am un o'r cyfnodau caletaf a fu erioed yn hanes Cymru, sef tua hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Dywaid Syr O. M. Edwards mai dyna'r cyfnod y bu fwyaf o ddioddef eisiau bwyd yn hanes ein cenedl. Yr ydym ninnau yn byw mewn cyfnod caled, ac efallai y bydd yn galetach yn y dyfodol, er yn wahanol iawn i amser y tadau. Ond pwy a ŵyr na all darllen am y modd y brwydrodd llawer tad a mam am fwyd i'r plant bach ganrif yn ôl fod yn symbyliad i ryw dad a mam eto yn y dyfodol?[1]
Mae'r gyfrol yn cynnwys ysgrifau manwl ar sawl agwedd o fywyd y werin, yn cynnwys y cefndir hanesyddol, bywyd y ffermwyr a'r gweision a'r morynion, y tai a bythynod a'u dodrefn, offer a chelfi amaethyddol, hen ddiwydiannau gwledig, hen ddefodau ac arferion, dylanwad y capeli ymneilltuol a'r ymfudo o'r wlad i ddinasoedd mawr Lloegr a'r tu hwnt.
Manylion cyhoeddi
golyguCwm Eithin gan Hugh Evans; (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1931.)
Cyfieithwyd i'r Saesneg wrth y teitl Gorse Glen, gan E. Morgan Humphreys (1948).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cwm Eithin, tud. vii.