Landreger

(Ailgyfeiriad o Tréguier)

Cymuned a phorthladd yn departamant Aodoù-an-Arvor yw Landreger (Ffrangeg: Tréguier). Hi oedd prifddinas talaith hanesyddol Bro-Dreger. Mae'n ffinio gyda Priel, Ar Vinic'hi ac mae ganddi boblogaeth o tua 2,409 (1 Ionawr 2021). Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 1,763.

Landreger
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,409 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMondoñedo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd1.52 km² Edit this on Wikidata
GerllawGuindy, Jaudy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPriel, Ar Vinic'hi Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.785°N 3.2325°W Edit this on Wikidata
Cod post22220 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Landreger Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Sefydlwyd Landreger gan Sant Tudwal, a dywedir i Sant Briog sefydlu mynachlog yma hefyd. Cyhoeddwyd y C'hatolicon, y geiriadur Ffrangeg / Llydaweg cyntaf, yma yn 1499. Roedd hwn wedi ei ysgrifennu yn 1464 gan Jehan Lagadeuc. Yn 2007, roedd 16% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.

Poblogaeth golygu

 

Pobl enwog o Landreger golygu

  • Ernest Helo (1828-1885), beirniad
  • Herveus Natalis (c. 1260-1323) 14 Meistr Cyffredinol y Dominicans
  • Joseph Savina (1901-1983), dylunydd a cherflunydd, byw a gweithio yma.

Ernest Renan awdur, athronydd a hanesydd Llydewig golygu

Eglwys Gadeiriol Sant Tudwal golygu

Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Sant Tudwal yn 14g, mae'r eglwys yn nodedig am ei thri tŵr

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: