Arlunydd Cymreig oedd Trajan Hughes[1] (ganwyd c. 1670; fl 1709-12)[2] a beintiai'r rhan fwyaf o'i waith gyda phaent olew. Cafodd ei eni yng Nghwm Corryn, Llanaelhaearn, Gwynedd a gwyddys ei fod yn gyfaill i'r arlunydd Francis Barlow. Roedd Trajan yn un o arlunwyr cyntaf gwledydd Prydain i ddarlunio anifeiliaid ac mae ei waith yn gymharol brin.

Trajan Hughes
Ganwyd1670 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Un o weithiau olew'r arlunydd Trajan hughes, yn ddarlun o anifeiliaid ar fferm.

Mae ei luniau o adar yn dangos manylder eithriadol ond eto syml a'i ddewis o liwiau'n ein hatgoffa o arlunwyr o'r Iseldiroedd.

Ei dad oedd John Hughes (neu John ap Huw) ac enw'i fam oedd Mary Maredydd o Glynnog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan answers.com; adalwyd 16 Ionawr 2013
  2. Gwefan 'Family Search'; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Rhagfyr 2013

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.