Tramffordd Bryn Oer

tramffordd ym Mhowys

Roedd Tramffordd Bryn Oer yn rheilffordd lled cul a weithiwyd gan geffylau a adeiladwyd yn Ne Cymru ym 1814.[1]

Tramffordd Bryn Oer
Mathrheilffordd cledrau cul, horsecar Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1815 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Hyd13 cilometr Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Adeiladwyd Camlas Aberhonddu a'r Fenni o dan Ddeddf Seneddol ym 1793. Caniataodd y Ddeddf i gwmni'r gamlas adeiladu rheilffyrdd bwydo hyd at 8 milltir (13 km) o hyd i draws gludo nwyddau i'r gamlas. Adeiladwyd Tramffordd Bryn Oer o dan y ddeddf hon ym 1814, gan agor ym 1815. Llwyfandir a weithiwyd gan droliau ceffyl ydoedd a wasanaethodd glofeydd Bryn Oer a'r chwareli calchfaen yn Nhrefil, gan ddisgyn 330 m neu 1,080 troedfedd ar hyd ei lwybr i'r gamlas yn Nhal-y-bont ar Wysg. Adeiladwyd estyniad i wasanaethu gwaith haearn Rhymni yng Nghwm Rhymni.[2]

Erbyn y 1830au roedd twf y rheilffyrdd lleol wedi dechrau cystadlu a'r dramffordd, yn enwedig gyda chyflwyniad locomotifau stêm a oedd yn rhy drwm i weithio ar y llwyfandir bregus. Erbyn 1860 roedd y rhan fwyaf o draffig y dramffordd yn cael ei hanfon ar reilffyrdd a chaeodd y dramffordd ym 1865.[3]

Y dramffordd heddiw golygu

Erbyn 2006 roedd llawer o lwybr y dramffordd wedi cael eu newid i'w ddefnyddio fel llwybr ceffylau cyhoeddus ar gyfer cerddwyr, marchogion a beicwyr mynydd, ac mae llawer o'r cerrig sylfaen i'w gweld o hyd mewn sawl man.[4]

Mae Fforwm Cadwraeth Tramffordd Bryn Oer wedi'i sefydlu i amddiffyn a gwarchod gweddillion y darn pwysig hwn o archeoleg ddiwydiannol Cymru. Mae'r Fforwm yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Tref Tredegar, cynghorau cymunedol Talybont a Llangynidr ynghyd â Chymdeithas Hanesyddol Llangynidr ac unigolion.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "BLAEN-DYFFRYN CRAWNON, BRYN OER TRAMROAD | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-19.
  2. "Brinore Tramroad - Brecon Beacons National Park". brinore-tramroad.powys.org.uk. Cyrchwyd 2019-11-19.
  3. "Brinore Tramroad - origins and history". brinore-tramroad.powys.org.uk. Cyrchwyd 2019-11-19.
  4. "Brinore Tramroad Brecon Beacons - further information". brinore-tramroad.powys.org.uk. Cyrchwyd 2019-11-19.