Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Parc cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n un o dri yng Nghymru. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Fe'i ffurfiwyd ym 1957.
Math | un o barciau cenedlaethol Cymru a Lloegr, geoparc |
---|---|
Poblogaeth | 33,485 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,344 km² |
Cyfesurynnau | 51.88°N 3.4°W |
Cod SYG | W18000001 |
Rheolir gan | Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Statws treftadaeth | Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol |
Manylion | |
- Mae hon yn erthygl am y parc cenedlaethol. Am y mynyddoedd yr enwir y parc ar eu hôl, gweler Bannau Brycheiniog.
Yn Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Bannau Brycheiniog' yn unig o hyn ymlaen.[1]
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.
Enw Cymraeg yn unig
golyguAr 17 Ebrill 2023, 66 mlynedd i'r dydd wedi sefydlu'r Parc, cyhoeddwyd mai yr enw Gymraeg, Bannau Brycheiniog, bydd enw swyddogol y Parc. Yn ôl penaethiaid y parc mae'n gam fydd yn dathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Mae'n rhan o strategaeth newydd ar gyfer dyfodol y parc, sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau amgylcheddol difrifol. "Roedd hi just yn teimlo fel amser da i ailafael yn yr hen enw am yr ardal. Mae'n efelychu ein ymrwymiad ni i'r iaith Gymraeg," eglurodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Catherine Mealing-Jones[2]. Dyma fydd yr ail barc cenedlaethol i hawlio enw Cymraeg yn unig, yn dilyn penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2022.[3]
Copaon uchaf
golygu- Fan Llia (631 m)
- Moel Feity (591 m)
- Fan Nedd (563 m)
- Fan Brycheiniog
- Garreg Lwyd (616m)
Llynnoedd
golyguGweler hefyd
golygu
Dolen allanol
golygu- ↑ "Bannau Brycheiniog: Defnyddio'r enw Cymraeg yn unig yn "rhoi statws i'r iaith"". Golwg360. 2023-04-17. Cyrchwyd 2023-04-17.
- ↑ "Parc Cenedlaethol y Bannau i ddefnyddio enw Cymraeg yn unig". BBC Cymru Fyw. 17 Ebrill 2023.
- ↑ "Parc cenedlaethol i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig". BBC Cymru Fyw. 16 Tachwedd 2022.