Tramffyrdd Hong Cong

Gwasanaethir dinas Hong Cong gan Dramffyrdd Hong Cong.

Hanes golygu

Pasiwyd Deddf i adeiladu tramffyrdd ar Ynys Hong Cong yn San Steffan ar 29 Awst 1901, a sefydlwyd cwmni i’w wneud yn Lloegr yn 1902. Dechreuodd gwaith adeiladu rhwng Tref Kennedy a Bae Causeway ym 1903, ac yn hwyrach estynwd y dramffordd i Shau Kei Wan. Adeiladwyd tramiau 2 lawr o 1912 ymlaen. Estynnwyd y lein i’r cae ras yn Happy Valley yn 1920, a dwblwyd y lein rhwng Tref Kennedy a Bae Causeway ym 1924. Adeiladwyd lein ychwanegol, rhwng North Point a Heol Whitty, ym 1953. Defnyddiwyd ôl-gerbydau un llawr rhwnf 1965 a 1982. Allforiwyd 2 dram i Amgueddfa tramffordd Penbedw ym 1992.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu