Trezza Azzopardi

awdur o Gymru

Nofelydd Cymreig sy'n ysgrifennu yn Saesneg yw Trezza Azzopardi (ganwyd yng Nghaerdydd). Cymraes yw ei mam a daw ei thad o Malta. Astudiodd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, ac yn bresennol mae'n gweithio fel darlithydd yno.

Trezza Azzopardi
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Dwyrain Anglia
  • University of Derby Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Dwyrain Anglia Edit this on Wikidata

Rhestrwyd ei nofel gyntaf, The Hiding Place, ar restr fer y Booker Prize yn 2000 (cyflawniad nodweddiadol gan nad yw nofelau cyntaf fel arfer yn cael eu enwebu ar gyfer y wobr). Enillodd y nofel y Geoffrey Faber Memorial Prize hefyd ac aeth ar restr fer y James Tait Black Memorial Prize. Daeth ei hail nofel, Remember Me, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

Mae Azzopardi yn byw yn Norwich, yn nwyrain Lloegr.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu