Tribo-oleuedd
Ffenomen optegol yw tribo-oleuedd pan gynhyrchir golau trwy ryngweithiadau tribolegol mewn mater, megis rhwygo, crafu, neu wasgu, sy'n torri bondiau cemegol y mater. Ni ddeallir y ffenomen yn hollol, ond yn debyg fe'i achosir gan wahanu ac ail-uno gwefrau trydanol. Er enghraifft, gall diemwnt oleuo wrth iddo gael ei dorri.