Gwefr drydanol

Un o briodweddau ffisegol mater ydy gwefr drydanol (symbol arferol: Q) sy'n peri iddo brofi grym pan fo wrth ymyl mater sydd hefyd wedi'i wefru. Mae dau fath o wefr drydanol: posydd (neu "bositif") a negydd (neu "negatif"). Mae dau ddeunydd sydd wedi'u gwefru'n bositif ill dau yn profi egni egni gwrthyru, ac felly dau ddefnydd sydd wedi'u gwefru'n negatif. Mae dau beth â gwefrau trydan anhebyg (h.y. y nail yn bositif a'r llall yn negatif) yn atynnu ei gilydd.

Cargas electricas.png
Data cyffredinol
MathGwefr, meintiau sgalar, maint corfforol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwefr bositif
Gwefr negatif

Pan fo gwefr drydanol (Q) yn goddef newid yn y foltedd (V), yna caiff egni (E) ei drosglwyddo. Bydd y wefr yma'n rhoi'r gorau i'r egni hwn pan yw'n goddef lleihad foltedd mewn cydrannau eraill yn y gylched. Y fformiwla ydy: E = QV.

Mae'r coulomb (symbol: C) yn uned SI rhyngwladol sy'n hafal i un uned o wefr trydanol, sef oddeutu 6.24151 × 1018 proton neu −6.24151 × 1018 electron.[1] Yr enw ar y maes hwn, y maes o sut mae pethau neu deunydd sydd wedi'u gwefru yn rhyngweithio â'i gilydd yn cael ei alw'n electrodeinameg clasurol.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. [1] Electric Charge gan yr Athro Joseph F. Becker, San Jose State University
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.