Tristwch y Fenywod
band Cymraeg o Swydd Efrog
Mae Tristwch y Fenywod yn grŵp Cymraeg o Leeds, Swydd Efrog, ffurfiwyd yn 2022.
Maen nhw'n disgrifio eu hun fel ‘tair o fenywod yn gwneud cerddoriaeth Cymraeg gothic’.
Yr aelodau ydy: Gwretsien Ferch Lisbeth (Gretchen Aury) - llais a dwydelyn, Sydney Koke - gitar bas a llais ychwenegol a Layla Legard - drymiau.
Mae aelodau hefyd wedi bod yn rhan o nifer fawr o grwpiau eraill - Gretchen yn aelod o Guttersnipe, A Void in Coma a Blood Claat Orange, Sydney Koke (yn wreiddiol o Alberta) yn aelod o’r grŵp indie Canadaidd The Courtneys a Layla Legard yn aelod o grŵp Goth Hawthonn
Mae’r band wedi chwarae eu gigs cyntaf yn Leeds, Manceinion a Lerpwl ac eu cyntaf yng Nghymru gydag Anxiolytics ym Mangor ym Mawrth 2023.