Trobwynt (elusen)

elusen Gristnogol yn Llŷn ac Eifionydd

Elusen Gristnogol yn cynrychioli rhai o eglwysi ardal Llŷn ac Eifionydd, Gwynedd yw Trobwynt. Mae Trobwynt yn cyflwyno’r ffydd Gristnogol i’r ieuenctid gan wasanaethu’r bobl ifanc, ysgolion a theuluoedd trwy bartneriaeth gyda’r Eglwysi lleol.

Mae Trobwynt yn gweithio yn yr eglwysi i hyrwyddo, hyfforddi a chefnogi cynlluniau ieuenctid a chynorthwyo gweithgareddau perthnasol lleol. Maent yn cynorthwyo’r eglwysi i gynnal ac adeiladu eu gwaith ymhlith plant 10 mlwydd oed a hyn. Maent hefyd yn gweithio yn yr ysgolion lleol i gyfrannu at ddatblygiad addysgol, moesol ac ysbrydol ein pobl ifanc drwy weithio mewn partneriaeth ag athrawon a gweithwyr ysgolion eraill. Mae'r gymuned yn bwysig iddynt lle maent yn hyrwyddo Cristnogaeth ymhlith ieuenctid gan gyflwyno 'model rôl' Gristnogol.

Dolenni allanol golygu