Ffenomen dywydd yw troellwynt a geir pan fo troell (neu fortecs) o wynt (sef colofn fertigol, cylchdröol o aer) yn ffurfio o ganlyniad i ansefydlogrwydd a thyrfedd a grëir gan lif aer gwrthgyferbyniol. Adwaenir hefyd fel awel dro. Digwydd y ffenomen hon ledled y byd ym mhob tymor. Ceir trowynt (neu chwyrlwynt)[1] o wahanol gryfder: cryf a gwan. Mae'r tornado a'r colofn ddŵr (waterspout) yn enghraifft o'r math cryfaf a'r cythraul llwch (dust devils) a throlifau'n enghreifftiau o'r math gwanaf.

Troellwynt

Cyfeiriadau golygu

  1. Termiadur y Coleg Cymraeg; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Mehefin 2014.