Band gwerin electroneg o Gaerfyrddin oedd Trwbador.

Trwbador
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2010 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2010 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth electronig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.TRWBADOR.co.uk Edit this on Wikidata
Trwbador ym Mehefin 2012.
Trwbador yn chwarae Tafarn Parrot, Caerfyrddin

Aelodau'r band oedd Angharad Van Rijswijk ac Owain Gwilym. Arferent ddisgrifio'u hunain fel deuawd 'avant Pop'; roedd eu caneuon dwyieithog yn felodig a thylwyth-tegaidd gyda hiwmor tywyll a brathog ar brydiau, megis 'I'll Google It' a 'Red Handkerchiefs'. Ymhlith eu caneuon nodedig mae: "All animals are friends of mine" a "Meat is murder, but it tastes so fine".

Cyhoeddodd y band 2 EP ar ei label ei hun, 'Owlet Music', sef It Snowed a Lot this Year ac yn fwy diweddar, Sun in the Winter. Mae adleisiau o nifer o ddylanwadau i'w clywed yng ngherddoriaeth y band, fel Gold Panda, Pentangle a Gorky's Zygotic Mynci. Mae llais Angharad yn dwyn atgofion o Alison Goldfrapp hefyd. Ond roedd y cyfuniad o'r gwerin a'r electroneg, neu 'folktronika' yn ddatblygiad newydd a chafodd Trwbador dipyn o lwyddiant y tu allan i Gymru hefyd.

Daeth y band i ben ym mis Medi 2015.

Disgyddiaeth golygu

Albymau golygu

  • Trwbador (2013)
  • Several Wolves (2014)

EP a Senglau golygu

  • It Snowed A Lot This Year EP (2010)
  • Sun in the Winter EP (2011)
  • Safe sengl (2013)
  • Mountain / Once I Had a Love sengl (2013)
  • Breakthrough (Ft. Essa) sengl (2014)

Dolenni allanol golygu

Proffil y band gan BBC Cymru